Mae Magda Kuca yn ffotograffydd o Wlad Pwyl sy’n byw yn Llundain ar hyn o bryd. Mae Magda yn ymddiddori mewn archwilio natur gylchol defodau dynol – mae’n defnyddio’r dechneg ffotograffig hanesyddol colodion platiau gwlyb i archwilio cyd-destunau hunaniaeth, atgof ac ymchwiliad ethnolegol. Mae gwaith Magda wedi bod yn destun arddangosfeydd unigol mewn sawl rhan o’r byd: 2016 yn y Circulation(s) Festival ym Mharis. Yn 2017 cafodd ei gweithiau, a gomisiynwyd gan Photography a’r Archive Research Centre, eu harddangos yn LCC, Llundain.
Mae Magda hefyd yn addysgwr, ac yn arwain gweithdai ar dechnegau ffotograffig amgen a hanesyddol (syanoteip, colodion platiau gwlyb, ffotograffiaeth twll pin, biocromad gwm, anthoteip, argraffu arian gelatin ac eraill) yn y DU ac yng Ngwlad Pwyl. Mae wedi cydweithio gydag amrywiol sefydliadau ac orielau, fel Amgueddfa Prydain, Prifysgol Celfyddydau Llundain, Spike Printing Studio ym Mryste a’r Four Corners Gallery. Ar hyn o bryd mae Magda yn gweithio o’i stiwdio yn Llundain. Mae hefyd yn derbyn comisiynau.
Mae cyfres emwaith Magda yn cynnwys darnau bychain o ffotograffau celf wedi’u crefftio’n ofalus â llaw mewn ystafell dywyll draddodiadol. Mae’n defnyddio’r dechneg colodion gwlyb, sef dull prin ac unigryw sy’n hanu o’r cyfnod Fictoraidd yn y 1850au. Mae pob un yn ffotograff bychan lle nad yw’r un ohonynt yn gwbl debyg i’w gilydd. Mae’n defnyddio cyfansoddion arian o waith llaw i greu delwedd aml-ddimensiwn unigryw sydd wedyn yn cael ei hamgáu mewn arian sterling 925 (Heb nicel).
Yn 1842, perffeithiodd Anna Atkins y broses syanoteip a dechreuodd ei defnyddio yn ei hymchwil botanegol. Trwy osod planhigion yn syth ar bapur wedi’i gotio ag emwlsiwn a’i ddinoethi i’r golau, llwyddodd i greu amryfal ffotogramau o flodau mewn glas Prwsia, gan greu’r llyfrau lluniau botanegol cyntaf – gwrthrychau celf a gwyddonol. Heddiw mae artistiaid a gwneuthurwyr yn datblygu amrywiaeth o gysyniadau, o ecoleg i amrywiol ffurfiau ar ddylunio graffig, yn defnyddio’r dull hanesyddol hwn. Mae cyfres brintiau Magda yn deyrnged i’w gwaith.