O Dan y Gorchudd ar Daith

Arddangosfa Llantarnam Grange yn cyhoeddi dyddiadau ar gyfer ei thaith i’r Drenewydd a Shetland.

Mae O Dan y Gorchudd, sef arddangosfa sy’n dathlu gwaith tecstilau cyfoes wedi’i wehyddu ym Mhrydain ac a guradwyd gan yr artist tecstilau arobryn, Laura Thomas, wedi cyhoeddi y bydd yn mynd ar daith drwy gydol 2021 a 2022 yn Oriel Davies y Drenewydd, Powys, a Galeri Bonhoga Shetland Arts, Weisdale, yn yr Alban.

Yn wreiddiol, roedd arddangosfa O Dan y Gorchudd i fod i’w gweld yn Llantarnam Grange rhwng 28 Tachwedd 2020 a 30 Ionawr eleni, ond cyfyngwyd ar yr amser yma’n sylweddol oherwydd y cyfnod clo dros y gaeaf. Pan ganiatawyd i sector y celfyddydau ailagor ym mis Mawrth, estynnwyd yr arddangosfa tan 17 Ebrill er mwyn galluogi pobl i ymweld ac ailymweld ar ôl i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio ym mis Ebrill. Gan fod y cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws wedi ymyrryd ar yr arddangosfa gyntaf, mae’r amserlen deithiol yn cynnig cyfle i fwy o bobl nag erioed o’r blaen weld y gorau o waith tecstilau cyfoes sydd wedi’i wehyddu ym Mhrydain.

Mae Llantarnam Grange yn falch o weithio mewn partneriaeth ag Oriel Davies a Shetland Arts i rannu gwaith artistiaid eithriadol sydd wedi’u dwyn ynghyd gan waith cyson Laura Thomas i ddathlu ac archwilio tecstilau a ffurfiau gwehyddu.

Meddai Louise Jones-Williams, Cyfarwyddwr Llantarnam Grange: “Mae taith arddangosfa O Dan y Gorchudd yng Nghymru a’r Alban yn cyflwyno’r achos dros weithiau tecstilau cyfoes wedi’u gwehyddu, ac mae Llantarnam Grange yn falch iawn o fynd â’r arddangosfa yma ar daith, a hyrwyddo a chefnogi artistiaid a gwneuthurwyr o Gymru i gynulleidfaoedd newydd.”

Meddai Graeme Howell, Prif Weithredwr Shetland Arts: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at amlygu’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Shetland drwy ddod â’r arddangosfa yma o wehyddu gyfoes i Bonhoga. Mae tecstilau wedi bod yn rhan bwysig iawn o’r diwylliant yn Shetland ers amser maith, ac rydyn ni’n falch o fod yn arddangos gwaith tri gwneuthurwr lleol ochr yn ochr â’r arddangosfa deithiol; Deborah Briggs, Emma Geddes o gwmni Aamos Designs a The Shetland Tweed Company.”

Meddai Steffan Jones-Hughes, Cyfarwyddwr Oriel Davies: “Yr hydref yma, rydyn ni’n falch iawn o fod yn dathlu gwehyddu yn y Drenewydd gyda dwy arddangosfa wych. Bydd arddangosfeydd Steve Attwood Wright ac O Dan y Gorchudd yn rhoi arolwg cyfoethog o decstilau gwehyddu i’n cynulleidfa. Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda Laura Thomas ar y prosiect yma, a bydd O Dan y Gorchudd yn arddangosfa berffaith ar gyfer hydref / gaeaf 2021.”

 

Meddai Laura Thomas, Artist a Churadur yr arddangosfa: “Ar ôl blwyddyn anodd o gyfyngiadau a chyfnodau clo, rydw i’n falch iawn y bydd arddangosfa O Dan y Gorchudd Llantarnam Grange yn mynd ar daith i Oriel Davies a Shetland Arts, dau leoliad gwych sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd sydd â threftadaeth tecstilau mor gyfoethog.

Mae’r awydd am arddangosfeydd tecstilau wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r arddangosfa yma’n arolwg pwysig o flancedi cyfoes sydd wedi’u gwehyddu. Mae’r blancedi, sy’n amrywio o rai a wehyddwyd â llaw i wehyddu mewn melin, yn datgelu’r llygad berffaith sydd gan y gwneuthurwyr am ansawdd a sylw i fanylion.  Mae pob un yn dangos defnydd clyfar o liw, strwythur gwehyddu a dewis o edafedd sy’n arwain at flancedi o ansawdd etifeddol i gysuro ein cyrff a dodrefnu ein cartrefi.”

 

Roedd O Dan y Gorchudd ar agor yn Llantarnam Grange rhwng 28 Tachwedd 2020 ac 17 Ebrill 2021

Mae O Dan y Gorchudd yn agor yn Oriel Davies, y Drenewydd, ar 9 Hydref 2021 tan 24 Rhagfyr 2021

Mae O Dan y Gorchudd yn agor yn Shetland Arts, Lerwick, yr Alban, 21 Ionawr tan 13 Mawrth 2022