ORIEL2
MODERN ALCHEMY
12 AWST– 4 TACHWEDD
Credir bod Alcemydd yn meddu ar y pŵer i drawsnewid pethau er gwell, gan arbrofi gyda thechnegau newydd yn aml, a chynhesu a chymysgu hylifau ar drywydd trawsnewid a harddwch. Mae’r artistiaid a’r dylunwyr gemwaith sy’n arddangos yn Modern Alchemy yn cyfeirio’u hangerdd a’u sgiliau at drawsffurfio metel, gan greu celf arddunol y byddwn yn ei chwennych a’i gwisgo.
Pan awgrymodd cyfarwyddwr yr Ŵyl Grefftau, Sarah James, arddangosfa o emwaith gwerthfawr, roeddem yn gwybod y byddem yn cael at y gemyddion gorau yn y DU. Trwy gydweithredu â Find a Maker, mae’r gemyddion a ddewiswyd yn dyrchafu eu crefftwriaeth i’r lefel nesaf, gan ddatblygu technegau newydd wrth iddynt gadw’r arferion traddodiadol yn fyw.
Mae’r rhain yn amrywio o fwrw cŵyr coll, ocsidio cyferbyniol ar fetelau a defnyddio gemfeini gwerthfawr ac unigryw, i gerfio gemau, gwneud marciau, mewnosod gwifren, a lluniau miniatur wedi’u hysgythru mewn pres. Mae pob gemydd yn cyflwyno technegau cyffrous, yn cynnwys rhai arbrofol ac a ddatblygont yn bersonol. Mae’r arddangosfa hon yn cyfuno ystod hardd o ysbrydoliaethau ac arddulliau, gan ganiatáu i’r gemyddion gyfathrebu â ni trwy iaith metel.
Yn cynnwys gemwaith gan:
Ayshe Brandts, Barbora Rybarova, Cathy Newell Price, Daphne Kirnos, Gerlinde Huth, Kiya Corrales, Lauren Bell Brown, Lyndsay Fairley and Rebecca Burt.