ORIEL 1
PORTAL 2023
12 AWST – 4 TACHWEDD

 

Portal yw ein harddangosfa flynyddol o grŵp o artistiaid a gwneuthurwyr graddedig, a’i nod yw datgyfrinio gweithio yn y celfyddydau. Trwy roi cymorth, offer a’r cyfle i ddatblygu sgiliau i leisiau newydd, mae Portal yn ymestyn y tu hwnt i waliau’r oriel gan roi’r cychwyn gorau posibl i artistiaid datblygol wrth iddynt sefydlu gyrfaoedd cynaliadwy.

 

Trwy amrediad o ymarferion sy’n amrywio o gerameg, tecstilau, gwaith metel, ffotograffiaeth a gosod, mae Portal 2023 yn arddangos casgliad o waith 16 o raddedigion eleni. Daw’r artistiaid o sefydliadau Cymreig fel Met Caerdydd, PCDDS Abertawe ac Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac o brifysgolion o rannau eraill o Brydain fel Coleg Celf Henffordd, Ysgol Gelf Manceinion a Phrifysgol Caeredin. Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon yn cipio’r syniadau a’r ysbryd cyfunol sy’n dod allan o ysgolion celf eleni.

Mae’r gwaith a ddangosir yn archwilio perthynas sy’n sensitif i grefft a phroses, ac mae’r artistiaid yn dangos gofal a meddylgarwch yn eu dewis o ddeunyddiau, eu pynciau dewisol, a sut mae’r rhain yn cael eu cyfleu.

 

Mae rhai wedi edrych tuag i mewn i archwilio sut rydym yn ymdeimlo â’n hunain a’n cyrff, o’r masgiau a wisgwn i’n lles emosiynol, a’r hyn sy’n llythrennol yn rhedeg trwy ein gwythiennau; tra bod eraill wedi ystyried sut rydym ninnau, a’r prosesau a ddefnyddiwn, yn dwyn perthynas â’r tir.

 

Wrth fod yn ymwybodol o leihau effeithiau amgylcheddol eu crefft, dogfennu bywyd ar ecofferm, neu drwy gerfluniau sy’n caniatáu i ni ddod yn rhan o lawr y goedwig, mae’n amlwg bod buddsoddiad mewn ffyrdd amgen o fod.

Trwy’r holl bynciau gwahanol hyn, mae gwleidyddiaeth yn bresennol bob amser. O ffeministiaeth a phositifrwydd corff, i amgylcheddaeth, y Gymraeg, neu wrth goffáu digwyddiadau trasig penodol.

 

Gan fod protestio a gweithredaeth yn dylanwadu ar lawer o artistiaid, mae Portal 2023 yn rhannu dymuniad cyfunol i sefyll o’n plaid ein hunain, dros bobl eraill, a thros ein hamgylchoedd.

 

Cyflwynir gwaith gan:
Ananda Hill, Bonnie Grace, Clare Stephens, Ffion Williams, Gabriel Showell-Nicholas, Hannah Sharpe, Jackie Stephens, Jessica Agar, Madelaine Atkinson, Niamh O’Dobhain, Rosie Merriman, Rowan Lickerish, Sarah Grounds, Thomas Radburn, Valerie O’Donnell.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 12 Awst 6-8pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 4 Tachwedd 2023.

Gwyliwch Angharad Pierce Jones, o raglen Prynhawn Da S4C, yn edrych ar yr arddangosfa ac yn cyfweld â Bonnie Grace am ei gwaith Meddyliau ar Chwarter // Thoughts at a Quarter:

CATALOG YR ARDDANGOSFA

Gweler y Catalog Saesneg yma.

 

Galwch heibio i’n siop grefftau i brynu copi papur dwyieithog o’r catalog (£5)