FOYER
CRIW CELF
12 AWST- 4 TACHWEDD

 

Bob blwyddyn rydym yn gweithio gyda phobl ifanc ym mlynyddoedd ysgol 5 -13 trwy ein rhaglen Criw Celf. Ariennir y rhaglen gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau artistig y tu allan i amgylchedd yr ysgol ac ar y cyd ag artistiaid proffesiynol.

 

Eleni mae ein cyfranogwyr Criw Celf wedi gweithio’n agos gyda chymaint o artistiaid-gwneuthurwyr hynod i arbrofi gyda phrintio, darlunio, brodwaith a chymaint mwy!

 

I ddathlu llwyddiannau a gwaith cyfranogwyr eleni, rydym yn dangos casgliad o’u gwaith mewn arddangosfa yn ein cyntedd.

Mae’r artistiaid eleni’n cynnwys:
Anna Barrett, Keith Bayliss, Vivienne Beaumont, Adeola Dewis, Rebecca Hammett, Lauren Heckler, Gethin Hinshelwood, Sasha Kingston, Becky Lewis, Jim Parkyn, Jack Skivens, Kate Mercer

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 12 Awst 6-8pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 4 Tachwedd 2023.