CLIRIAD CREADIGOL!
30 MAI 2026
10AM – 3YP
Cofrestrwch nawr am fwrdd am ddim i werthu eich eitemau dros ben yn ein Cliriad Creadigol ddydd Sadwrn 30 Mai, 10yb -3yp yn Oriel 1. Fe fydd Oriel 1 dan ei sang â stondinwyr sy’n gwerthu defnyddiau celf a chrefft.
Mae deiliaid stondinau yn gyfrifol am eu dulliau talu personol. Bydd rhai stondinau yn rhai arian parod yn unig.
Y dydd Sadwrn hwn yw’r diwrnod olaf i chi gael gweld ein harddangosfeydd presennol, yn cynnwys ein harddangosfa agored, Llantarnam Grange 60 mlynedd | years, sy’n dod â 145 o artistiaid a gwneuthurwyr o bob rhan o’r DU at ei gilydd yn Oriel 1.

