Llantarnam Grange 60

LLANTARNAM GRANGE 60

 

Mae’n dda gennym gyhoeddi ein bod yn dathlu 60 mlwyddiant Llantarnam Grange fel canolfan celf a chrefft yng Nghwmbrân eleni!

 

Agorodd ein harddangosfa gyntaf ar 30 Ebrill 1966 (pan oedd y tâl mynediad yn swllt!)

 

Dros y flwyddyn byddwn yn myfyrio ar ein gorffennol, ynghyd ag edrych ymlaen at ddyfodol y celfyddydau a chreadigrwydd yng Nghwmbrân!

 

Gyda rhaglen sy’n cynnwys: arddangosfeydd agored, sesiynau hanes galw heibio, comisiynau newydd, twrio drwy ein harchifau, sgyrsiau artistiaid, cacen ben-blwydd a mwy, rydym yn disgwyl yn eiddgar am ddathlu gyda’n holl gymunedau a thu hwnt!

 

Diolch o galon i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston am ariannu ein rhaglen 60 mlwyddiant, ac i’r holl bobl, partneriaid, gweithwyr, arianwyr sydd wedi’n cynnal ar hyd y blynyddoedd!

 

DIGWYDDIADAU

2 Mai: Parti Celf
18 Ebrill: Braslunio Trefol
7 Ebrill: Collage gyda Keith Bayliss
1 Ebrill: Orielau Plygu Papur
31 March: Posteri Gwneud Printiau
14 Mawrth: Llantarnam Grange 60 Digwyddiad Agoriadol, 12-2pm
11, 14 Chwefror: Sesiwn Galw Heibio Hanes y Bobl

 

ARDDANGOSFEYDD

14 Mawrth – 30 Mai: Llantarnam Grange 60 mlynedd | years
14 Mawrth – 30 Mai: Gelli Las – o’r 12fed i’r 21ain ganrif
14 Mawrth – 30 Mai: Posteri!

 

Mae hyn yn rhan o Llantarnam Grange 60, sef blwyddyn o ddathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân. Ariennir gan Ymddiriedolaeth Colwinston.