CASTELL ABERTEIFI
GŴYL GREFFT CYMRU
11-13 MEDI 2026
Mae Llantarnam Grange yn dychwelyd i Ŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi rhwng 11-13 Medi. Bydd gennym stondin grefftau gan wneuthurwyr a ddetholwyd o’n Siop Grefftau, a byddwn yn cynnal gweithgaredd creadigol galw heibio am ddim i deuluoedd a gwneuthurwyr ifanc.



STONDIN GREFFTAU
Mae’r stondin eleni yn cynnwys detholiad o flancedi gan Felin Tregwynt; crochenwaith a darnau cerameg gan Walter Keeler a Jin Eui Kim; cerflunwaith papur a gwaith gan Francesca Kay; a phrintiau gan Loz Anne.
GWEITHGAREDD CREADIGOL
Os ydych am roi cynnig ar fod yn greadigol, dewch draw i’n gweithgaredd galw heibio, rhad ac am ddim! Bydd cyfle i dorri a sticio siapiau syml i greu bathodynnau ffelt wedi’u hysbrydoli gan gwiltiau’r artist tecstilau Sophie Snow.
Cewch fwy o wybodaeth a phrynu tocynnau yma.

