MODERN RELICS
MATTHEW LINTOTT

 

Teithiol

14.01.26 – 08.03.26 – OBS GALLERY TONBRIDGE SCHOOL

05.12.26 – 27.02.27 – LLANTARNAM GRANGE

 

Mae Modern Relics yn arddangosfa solo gan y gwneuthurwr printiau Matthew Lintott sy’n ystyried sut gall canfyddiadau o amser a gofod dwfn effeithio ar ein perthynas â’r tir. Trwy wneud printiau cerfweddol torlun pren, cerflunio a sain, mae Matthew yn tynnu ar chwedlau a daeareg i ddatguddio’r gorffennol, y gwyllt a’r anghysbell, gan ein harwain yn ôl at dirwedd a deunyddiau hynafol.

Dan ysbrydoliaeth technegau blociau pren Japaneaidd traddodiadol, mae Matthew yn printio â llaw yn bennaf, heb ddefnyddio gwasg argraffu. Gan weithio gyda deunydd daearegol, yn cynnwys gweddillion ffosiledig môr-lawes 200 miliwn mlwydd oed, mae’n cynhyrchu ei inc printio ei hun, gan ailfywhau’r deunydd hynafol ar ffurf newydd.

 

Gan gydweithio ar draws rhywogaethau, gwyddoniaeth, hynafiaid ac atgof, mae Matthew yn tynnu ar sgyrsiau ac ymchwil maes gyda phaleofiolegydd; yn gweithio gyda lluniau mynydda a dynnwyd gan ei ddiweddar dad; ac yn printio gyda’i inciau Jwrasig. Mae hefyd yn cydnabod Afon Avon fel cydweithiwr a grym arall yn ei waith. Gyda’r lleisiau a’r cyfraniadau hyn, mae Matthew yn hel stori gydweithredol at ei gilydd sy’n dathlu’r hynafol a’r cyfoes.

“A yw’n bosibl newid ein ffordd o feddwl yn hanfodol drwy ddeall natur amser dwfn? Newid ein hymddygiad mewn perthynas â’n hamgylchedd? Nid yw’r mynydd yn llonydd, mae naill ai’n codi neu’n disgyn. Mae addasu ein canfyddiad o amser y tu hwnt i brofiad dynol yn caniatáu i ni feddwl yn fwy fel yr afon, fel y tir.” – Matthew Lintott

O’r cerflun o Ammon’s Horn, sy’n atseinio’r pŵer cadw mewn pren corsydd a dechreuad ffosileiddio, i Deep Time Audio, sy’n cynnwys grymoedd elfennol ac ymdeithiau chwilio am ffosilau personol mewn sainlun ymgolli, mae Matthew wedi creu casgliadau o wrthrychau sy’n pylu’r gorffennol a’r presennol. Trwy’r porth hwn at yr hynafol, cawn ein gwahodd i edrych tuag yn ôl, myfyrio a dod â phethau ymlaen: gan newid ein safbwynt a thrawsnewid y byd o’n cwmpas.

Os oes diddordeb gennych mewn dangos yr arddangosfa hon, cysylltwch â’n Swyddog Arddangosfeydd, Savanna Dumelow yn savanna.dumelow@llantarnamgrange.com

 

Mae Llantarnam Grange yn aelod o The Exhibitions Group (TEG), sef rhwydwaith o sefydliadau sy’n ymroi i gefnogi cyfnewid arddangosfeydd.