Simplicity and Complexity

SIMPLICITY AND COMPLEXITY
Jin Eui Kim

 

Teithiol

27.04.24 – 23.06.24 — Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

26.06.26 – 30.08.26 — The Base, Greenham

I gynllunio eich ymweliad, gweler mwy yma.

 

Mae arddangosfa solo newydd Jin Eui Kim yn ystyried sut gall y canfyddiad o ffurfiau ceramig tri dimensiwn gael ei lywio drwy osod gwahanol drefniadau tonaidd ar arwynebau. Yn dibynnu ar y trefniant, a thrwy ddefnyddio amrywiol raddiannau o led, ysbeidiau, tôn a chyferbyniad, gall effeithiau optegol ymddangos ac felly dylanwadu’n sylweddol ar y canfyddiad o’r ffurfiau tri dimensiwn go iawn. Gellir hefyd creu’r effeithiau optegol ar yr wyneb ceramig mewn gwahanol amgylchiadau, er enghraifft, lliw neu dôn y cefndir, y pellter rhwng y gwyliwr a’r celfwaith neu leoliad ffynhonnell y goleuni. Gall y rhain fod yn ffactorau hanfodol sy’n dylanwadu ar brofiad y gwyliwr o’r celfweithiau.

‘Rwy’n creu fy ngwaith yn bennaf drwy ddefnyddio tri gwahanol ddull: taflu ar olwyn, llunio â llaw a chastio slip.’

Gall rhithiau ymddangos yn fwy gweladwy mewn amgylchiadau penodol, er enghraifft mewn ystafell dywyllach wrth i’r ymwybyddiaeth o’r amgylchoedd ehangach gael ei chyfyngu. Nod Jin yw creu arwynebau sy’n amwys ac yn haniaethol fel y gall y gwylwyr ychwanegu eu realiti personol. Mae creu ansicrwydd o fewn a rhwng ffurfiau ceugrwm ac amgrwn yn hwyluso hyn, fel y gwna hefyd y cydadwaith rhwng gwastad neu wrymiog, arlliw neu liw go iawn, gan ychwanegu at y ffenomenau rhithiol.

 

Mae Jin hefyd yn ceisio tarfu ar y gwyliwr fel na fydd yn canolbwyntio ar fan penodol ar yr wyneb, trwy ddefnyddio ail-wneud, sy’n hyrwyddo canfyddiad parhaus o amwysedd ac yn creu rhithiau ychwanegol yn y maes gwelediad perifferol. Mae creu lledau unfath o fandiau neu flociau yn ailadroddus yn helpu i greu profiad gweledol sy’n ddiffocws ac sy’n cynyddu’r rhith brofiadau. Mae’n bwysig iawn cadw trefniant ffisegol y llinellau mor fanwl gywir â phosibl i annog y ffenomenau hyn.

‘Gan dynnu ar nifer fawr o ddylanwadau, datblygais ymdeimlad cryf o bwrpas creadigol. Rwy’n ymrwymedig i archwilio’r ffordd y gall patrymau arwyneb dwyllo drwy raddoli effeithiau tonaidd a rhithiau gofodol.’

Mae Jin yn ymdrechu’n barhaus i wneud datblygiadau technolegol a chymhwyso technolegau newydd at ei waith. Mae’n datblygu syniad newydd drwy ddychymyg, gan ddatblygu syniadau trwy arbrofion, profi a dysgu parhaus. Mae hon yn broses all gymryd blynyddoedd i’w pherffeithio, ond mae’n ei wobrwyo drwy’r canlyniadau hardd arobryn.

Os oes diddordeb gennych mewn dangos yr arddangosfa hon, cysylltwch â’n Swyddog Arddangosfeydd, Savanna Dumelow yn savanna.dumelow@llantarnamgrange.com

 

Mae Llantarnam Grange yn aelod o The Exhibitions Group (TEG), sef rhwydwaith o sefydliadau sy’n ymroi i gefnogi cyfnewid arddangosfeydd.