GWEITHGAREDDAU HANNER TYMOR
17 -18 CHWEFROR
Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau creadigol i bobl o bob oedran a gallu! Dewch i arbrofi â chollage gyda’r artist Kate Mercer.
Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion. Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
BREUDDWYDLUNIAU COLLAGE
17 CHWEFROR 10YB-12YP a 1-3YB
Ymunwch â’r artist Kate Mercer ar ddydd Mawrth 17 Chwefror 10am-12pm ac 1-3pm i arbrofi gyda chollage. Cewch rwygo, haenu a gludo i greu breuddwydluniau dychmygol.
Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, fellly dewiswch un slot wrth fwcio.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Bwciwch le drwy Eventbrite yma.
Pris: £5 + ffi bwcio.
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.
CYMERIADAU COLLAGE
18 CHWEFROR, 10YB-12YP a 1-3YP
Ymunwch â’n sesiynau galw heibio am ddim i wneud cymeriadau collage gyda’r artist Kate Mercer.
Mae’r gweithgareddau hyn ar gyfer oedolion a phobl ifanc 5+ sydd eisiau archwilio’u creadigrwydd mewn lleoliad artistig a chyfforddus.
Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.

