PALMSTONES
Sophie Mak-Schram
Crëwyd Palmstones gan yr artist Sophie Mak-Schram, mewn sgwrs ynglŷn â syniadau am ddal gyda’n grwpiau celfyddydau ac iechyd. Yn amrywio o bwy a beth rydyn ni’n dal gafael ynddo, i ddal ar ffurf strwythur cefnogi, fel dull o dawelu meddwl, neu fel dal gafael, buont yn ystyried gyda’i gilydd y rolau mae gwrthrychau’n eu chwarae wrth ein cryfhau, ein tawelu, ac yn ein cysylltu â’n gilydd.
Bu Sophie yn mynychu ac yn arwain ein grwpiau wythnosol, Creu gyda Hyder a Byw gyda Dementia, gan archwilio syniadau am ddal trwy rannu gwrthrychau a’u storïau. Daeth y rhain yn fan cychwyn ar gyfer arbrofi gyda cherflunio a gwneud patrymau, gan dynnu’n fras ar wahanol arferion diwylliannol o rannu gwrthrychau gyda cheraint a gwahanol fathau o sgaffaldwaith a strwythurau cefnogi.
Mae Palmstones yn cyfuno manylion, lluniau, a sganiau o’r gwrthrychau a chanlyniadau’r sesiynau, gyda delweddau o gasgliad parhaus Sophie o fideos dŵr, a ffitiadau golau o’n hadeilad – a osodwyd yn 1999 ac a newidiwyd yn Ebrill 2026. Mae’r geiriau llaw, daliwyd, dal, yn ymgysylltu â syniadau eraill o gefnogi a llesiant, gan adlewyrchu ein dull o weithredu fel sefydliad, y gymuned a’r awyrgylch rydym yn eu meithrin trwy’r rhaglen celfyddydau ac iechyd, a’r ffyrdd y gall gwrthrychau ymestyn dros amser a dal hanesion am ofalu.


Trwy haenu’r gwrthrychau a’r patrymau gyda’i gilydd mewn collage digidol, mae Sophie wedi cyfuno mathau o gefnogi gan wahanol bobl mewn un ddelwedd. Trwy gyflwyno hon yn ein Horiel Bwrdd Posteri, mae’r mathau o gefnogi hyn wedi ymestyn allan, y tu hwnt i’n hadeilad, gan gynnig rhywbeth i bobl eraill ddal gafael ynddo hefyd.
Bu Sophie yn gweithio gyda’n grwpiau drwy gydol Ebrill a Mai 2026 a bydd yn dychwelyd ar gyfer y sesiynau terfynol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ddydd Sadwrn 13 Mehefin, 12-2pm, a bydd y Bwrdd Posteri yn cael ei arddangos tan Wanwyn 2027.
Cyn y digwyddiad agor, bydd Sophie yn rhoi Sgwrs Artist fer am 11.00am yn Oriel 2. Bwciwch eich lle am ddim yma.
Mae hyn yn rhan o Llantarnam Grange 60, sef blwyddyn o ddathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân. Ariennir gan Ymddiriedolaeth Colwinston.



SOPHIE MAK-SCHRAM
Mae Sophie yn artist sy’n gweithio gydag eraill i greu gwaith safle-benodol ynglŷn â phŵer, cyfunoldeb, gwybodaeth a dyfodol. Mae’r gwaith hwn yn cael ei lywio gan brofiadau personol ac a rennir o wahaniaeth diwylliannol, gwladychiaeth, hil a rhywedd.
Gan ddefnyddio’r trosiad ‘erfyn’ yn aml – fel gwrthrych barddonol ac ymarferol – mae Sophie yn gweithio gyda chydweithredwyr i wneud offer a all newid pŵer, dod â grwpiau ynghyd a chynnig ffyrdd gwahanol o fod mewn perthynas (â’i gilydd, â lle, â sefydliadau). Gall erfyn fod yn atodiad mynediad, yn brotocol diogelu radical neu’n destun croeso a gyd-ysgrifennwyd, neu gall fod yn ddarn o gerameg y gallwch gyffwrdd ag ef yng nghyd-destun amgueddfa edrychwch-peidiwch-cyffwrdd, megaffon, neu glustog swreal.
