Hidden Women Untold Stories

ORIEL 2
HIDDEN WOMEN UNTOLD STORIES – PRITH B
13 MEHEFIN – 29 AWST

 

Mae Hidden Women Untold Stories yn arddangosfa o ddarluniau gan yr artist Prith B a gydosodwyd yn sgil cyfres o weithdai cymunedol. Mae’n taflu goleuni ar leisiau a phrofiadau menywod, a phob un yn fam, o amrywiol gymunedau diwylliannol.

 

Dechreuodd y prosiect gyda’r cwestiwn, ‘Ydych chi eisiau rhannu eich stori?’ Dyma oedd cam cyntaf y daith i fywydau saith o fenywod anhygoel nad oedd Prith erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen, a phob un â’i stori heb ei dweud, ei chryfder, a’i hysbryd. Ar ôl meithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd trwy’r gweithdai, cawsant eu gwahodd i rannu eu storïau a chael peintio eu llun. Cafodd pob darlun ei greu trwy gydweithrediad agos rhwng yr artist a’r model, gan sicrhau bob pob menyw yn cael dweud ei barn ynglŷn â sut roedd hi eisiau cael ei chynrychioli.

Mae Hidden Women Untold Stories yn gwahodd gwylwyr i mewn i fywydau’r menywod hyn, a fu’n hael yn rhannu’r pethau sydd bwysicaf iddynt a’r enydau arwyddocaol sydd wedi eu llywio i fod y bobl anhygoel yr ydyn nhw heddiw.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin, 12-2yp, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 29 Awst 2026.

 

Cyflawnwyd y prosiect hwn mewn cydweithrediad â Women’s Advocacy Network Cymru, Women Connect First, Oasis a Grange Pavilion. Cafodd ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

BYWGRAFFIAD

 

Mae Prith B yn artist ffeministaidd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae ei chorff o waith ehangach yn cynnwys darluniau haniaethol a thirluniau ar raddfa fawr, ond yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae ei hymarfer wedi canolbwyntio’n fwyfwy aml ar bortreadu menywod, ac yn benodol darluniau o fenywod o liw. Wrth galon ei gwaith mae’r cwestiynau am gydraddoldeb, amlygrwydd, a chynrychiolaeth – pwy sy’n cael eu gweld, sut maen nhw’n cael eu gweld, a phwy sy’n cael penderfynu.

 

Yn aml, mae storïau menywod o’r mwyafrif byd-eang yn cael eu fframio drwy naratifau mudo yn unig. Er y gall mudo fod yn rhan o rai bywydau, mae Prith yn gobeithio bod yr arddangosfa hon yn cynnig darlun ehangach a mwy haenog o brofiadau menywod, gan gwmpasu hunaniaeth, cryfder, perthyn, mamolaeth a hunaniaeth. Nid yw’r menywod a bortreadir yma yn cael eu diffinio gan daith sengl, ond gan gyflawnder pwy ydyn nhw.