GWEITHGAREDDAU CREADIGOL YR HAF
22 GORFFENNAF – 27 AWST 2026
Yr haf hwn rydym yn rhedeg 6 wythnos o weithgareddau creadigol i bobl o bob oedran a gallu! Mae pob wythnos yn canolbwyntio ar ddeunydd, thema, neu ffordd o wneud benodol.
Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o 5+ i 8+ felly gwiriwch eich sesiwn cyn bwcio. Rhaid i blant fod dan oruchwyliaeth bob amser.
Mae’r lleoedd yn yr holl sesiynau Dydd Mawrth yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw. Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, felly dewiswch un slot wrth fwcio.
Bwciwch eich lle drwy Eventbrite isod.
WYTHNOS 1: GWNEUD MARCIAU
Arbrofwch gyda gwneud marciau trwy batrymau a sgribladau gyda gwahanol ddeunyddiau i greu papurau addurnol a chollages chwareus.
Dydd Mawrth 21 Gorffennaf, 10yb-12yb a 1-3yp
Papurau Addurnol – Defnyddiwch baent, inc a phasteli i greu papurau addurnol llachar ar gyfer marcio lluniau torri a chollage lliwgar.
Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma.
Dydd Mercher 22 Gorffennaf, 10yb-12yb
Adar Papur – Defnyddiwch bapurau collage patrymog a deunyddiau arlunio i greu adar papur chwareus.
Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Oriel 2 – Galw heibio
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.
Os hoffech gael gwybod mwy ynglŷn â’n hadeilad a mynediad, i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad, gweler ein gwybodaeth i ymwelwyr a’n Canllaw Mynediad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bost yn hello@llantarnamgrange.com neu ffoniwch 01633 483321.

