Addurno ag Eurddail ac Effeithiau Paent Rhwd

ORIEL 2
ADDURNO AG EURDDAIL AC EFFEITHIAU PAENT RHWD
8 GORFFENNAF, 10YB-12YP

 

Ymunwch â’r artist Bridie Doyle-Roberts ddydd Mercher 8 Gorffennaf, 10am – 12pm, mewn sesiwn am ddim sy’n archwilio addurno ag eurddail a chreu effeithiau paent rhwd. Gan dynnu ar y dodrefn a’r gweadau yn ei harddangosfa Sbectrwm o’r Golwg yn Oriel 1, bydd Bridie yn cyflwyno’r ddwy dechneg gyferbyniol hyn i chi i greu celfwaith bach.

 

Mae’r broses hon yn gysylltiedig â choll golwg Bridie, a archwilir drwy ei harddangosfa gyfan.

 

Mae’r gweithgareddau hyn ar gyfer oedolion sy’n dymuno archwilio’u creadigrwydd mewn awyrgylch tawel a hamddenol.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma.