CAFFI
HOPES AND FEARS — RICHARD DAVIES
16 ERBRILL— 11 MEHEFIN 2022
Mae gwaith Richard yn cael ei lywio a’i ysbrydoli gan ei ddiddordeb mewn hanes, ecoleg, cymdeithaseg, ysbrydolrwydd a’i gariad dwfn tuag at natur, sy’n dawnsio’n barhaus wrth i liwiau a goleuni’r tymhorau newid. Mae’r printiau o’i waith yn yr arddangosfa’n adlewyrchu dwy arddull wahanol. Yr arddull tirweddau/trefluniau mwy confensiynol yn ei waith blaenorol, a’r arddull beintio newydd, sef llunio cyfansoddiadau ar sail cyfuniad o ddychymyg, emosiwn a chysyniadau ysbrydoledig o’r byd yn gyffredinol. Mae’r print o ddarn acrylig gwreiddiol o’r enw HOPE (y brechlyn Covid a phlannu coed) yn enghraifft o hyn.
Ganwyd Richard Davies yng Nghaerdydd ac mae’n byw yn Greenmeadow, Cwmbrân ers 1966.
Treuliodd Richard y 16 mlynedd gyntaf o’i fywyd yn gweithio ym myd diwydiant. Gwnaeth brentisiaeth pum mlynedd yng Ngholeg Technegol Nash, Casnewydd, gan ennill cymwysterau City & Guilds mewn Geometreg ac Arlunio. Ar ôl hyn, daeth Richard yn weithiwr Llenfetel ac yn Wneuthurwr Patrymau. Yn ddiweddarach, yn ei dridegau cynnar, dechreuodd ei yrfa fel Artist, gan ddatblygu ei lafur cariad a’i hobi cydol oes. Dilynodd Richard Gwrs Sylfaen mewn Celf yng Ngholeg Pont-y-pŵl ac yna cafodd leoliad ar gwrs HND Darlunio yng Ngholeg Celf Caerfyrddin.
Ers hynny, mae wedi gweithio fel artist proffesiynol. Mae Richard wedi cwblhau amrywiol gomisiynau preifat, wedi arddangos a gwerthu nifer o gelfweithiau, ac wedi creu darnau mawr o waith celf cyhoeddus a oedd yn cynnwys y gymuned, ac a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Erbyn hyn, mae’n osgoi gwaith comisiwn – mae’n well ganddo ganolbwyntio ar ei gelfwaith ei hun ac adwerthu cardiau a phrintiau mewn ffrâm.
Mae gan Richard stiwdio ardd lle mae’n peintio mewn amrywiol gyfryngau, gan wneud a pheintio fframiau o hen fframiau lluniau a phren wedi’i uwchgylchu. Mae hefyd yn creu celfwaith o fetel sgrap, cerrig a phren chwilota.