ORIEL 2
SURFACE EXPOSURE — MYFYRWYR FFOTOGRAFFIAETH
16 EBRILL— 11 MEHEFIN 2022
Mae Surface Exposure yn gydweithrediad ffotograffig rhwng tri myfyriwr trydedd flwyddyn o Goleg Gwent yn Crosskeys. Yn eu gwaith, mae Jessica Jackson, Sam Watson ac Andrew Breading yn astudio’r hyn sy’n gorwedd ar yr wyneb, yn hytrach na’r arfer mwy cyffredin o edrych ar yr hyn sy’n gorwedd oddi tanno.
Drwy brosiectau sy’n archwilio emosiynau, concrit ac Afon Rhymni, mae Surface Exposure yn archwilio pwysau, deunydd a dŵr. Yn y pen draw, bydd y prosiectau hyn yn ffurfio rhan o Brosiect Mawr Terfynol pob artist ar gyfer eu gradd.
Mae Jessica Jackson, o Gwmcarn, yn astudio’i hemosiynau ar hyd y flwyddyn ddiwethaf, o ofalu am ei merch yn ystod sawl cyfnod clo, dyweddïo a cheisio dod yn feichiog. Defnyddir ffotograffiaeth a barddoniaeth i rhoi safbwynt unigryw a phersonol iawn ar ei “Surface Pressure”.
Mae Sam Watson, o Fargoed, yn taflu goleuni ffres ar Afon Rhymni o’i ffynhonnell ar ymyl Bannau Brycheiniog i’w haber ar Fôr Hafren yng Nghaeryddd. Mae’r ysblander a’r harddwch, ynghyd â’r ardaloedd tra diwydiannol mae’r afon yn rhedeg drwyddynt, yn cyfleu golwg unigryw drwy “Surface Water”.
Mae Andrew Breading, o Borthcawl, yn bwrw golwg anarferol ar goncrit – o arllwysiad newydd sbon yn Y Pîl i Faes Parcio Glyndŵr yng Ngwmbrân. Mae’n gofyn i chi edrych ar y concrit a cheisio darganfod yr harddwch sydd ynddo, yn hytrach na’i drin fel rhywbeth iwtilitaraidd, hyll. Gobeithio bydd “Surface Material” yn rhoi rhywbeth i chi feddwl amdano ar eich ffordd yn ôl i’r maes parcio.
Surface Water: Afon Rhymni – Samantha Watson
“Mae llawer o anturiau fy mhlentyndod yn ymwneud â chwarae yn Afon “Rhym” a’i chwmpasoedd. Roeddwn yn byw rhwng y brif afon ac aber ac rwy’n cofio sawl achlysur pan ddes i adref yn wlyb oherwydd fy mod naill ai wedi llithro wrth geisio cyrraedd yr ochr arall, neu oherwydd fy mod wedi treulio diwrnodau cynnes yr haf yn sblasio yn ei basddwr. Rwy’n cofio mynd am droeon gyda fy ffrindiau o’r gymdogaeth, i geisio gweld pa mor bell y byddai hi’n cyrraedd. 30 mlynedd yn ddiweddarach, byddwn yn cwblhau antur fy mhlentyndod gan ddarganfod pa mor hir oedd Afon Rhymni mewn gwirionedd”.
O lethrau Cefn yr Ystrad, trwy’r hen feysydd glo, i’w haber ger aber Afon Hafren. Mae’r delweddau hyn yn dilyn hyd a lled Afon Rhymni.
Dechreuodd Samantha ei gyrfa mewn ffotograffiaeth fel ffotograffydd cynorthwyl ac ail ffotograffydd mewn priodasau. Pan oedd yn astudio ar gyfer ei gradd, sylweddolodd bod ganddi awch am ffotograffiaeth prosiectau.
Surface Material – Andrew Breading
Dydw i ddim yn hoffi pethau hardd. Wel mi ydwyf, wrth gwrs, ond nid wyf yn hoffi tynnu eu lluniau.
Rwy’n gweld harddwch yn y pethau dibwys a chyffredin, y pethau sy’n cael eu diystyru a’u gorchuddio. Mae Surface Material yn ddangosyn wedi’i wneud o amrywiol weadau concrit ac os edrychwch arnynt yn ofalus, mae’r harddwch yn disgleirio drwodd. Rwyf wedi tynnu’r lluniau hyn mewn sawl lleoliad yn Ne Cymru, gan gynnwys y ganolfan ailgylchu newydd sbon yn Y Pîl, maes parcio Glyndŵr yma yng Nghwmbrân ac mewn canolfan ailgylchu concrit.
Wrth edrych ar fy lluniau, gobeithiaf y byddwch yn sylwi ar y siapiau, cysgodion a’r gweadau y mae concrit, y deunydd amlbwrpas sy’n ein hamgylchynu, yn eu rhoi i’n hamgylchedd a sut mae’n helpu i wella ein golygfa.
Surface Pressure – Jessica Jackson
Mae’r prosiect hwn yn rhywbeth hollol newydd i mi. Rwyf wedi cyfuno dau o’m hoff ddiddordebau cydol oes, barddoniaeth a ffotograffiaeth, i helpu i ddweud stori fy mywyd yn fy ugeiniau. Rwyf wedi bod yn briod, wedi ysgaru ac wedi dod yn fam yn ystod y cyfnod hwn, heb sôn am fy newidiadau gyrfa niferus. Wrth edrych yn ôl nawr yn fy nhridegau, mae llawer i’w brosesu ac mae wedi bod yn ffordd hynod gathartig o fyfyrio.
Mae’r delweddau hyn wedi’u creu yn defnyddio arddulliau a phrosesau ffotograffig, ond mae cymaint o deimladau ac atgofion personol y tu ôl i bob un. Fel ffotograffydd, rwy’n hoffi ystyried fy hun yn cipio enydau ac yn eu hanfarwoli mewn amser fel y gall pobl edrych a myfyrio arnynt. Roedd y prosiect hwn yn rhywbeth gwahanol, mae fel be baswn yn mynd nôl mewn amser ac ailymweld ag atgof a chyfleu sut wnaeth effeithio arnaf, nid yn unig bryd hynny ond nawr hefyd.
Nod cyffredinol y prosiect hwn ydy dangos sut mae pethau ar wyneb ein bywyd yn effeithio arnom ar ein teithiau.