Criw Celf

CRIW CELF
PORTFFOLIO A CHODI’R BAR
DYDDIAU CAU: 17 GORFFENNAF

 

Cofrestrwch ar ein rhaglen haf Criw Celf.

 

Byddwn yn cynnal rhaglen haf Portffolio a Chodi’r Bar eleni rhwng 24 – 28 Gorffennaf. Os hoffech archwilio eich creadigrwydd, ac os ydych yn byw yn y de-ddwyrain ac ym mlynyddoedd 10 – 13 yn yr ysgol, gallwch wneud cais. Mae’n gyfle gwych i unrhyw un sy’n astudio ar gyfer TGAU neu lefel A mewn Celf a Dylunio.

 

Bydd y gweithdai ymarferol pum diwrnod yn rhoi cyfle i chi archwilio technegau, cyfryngau a ffyrdd o weithio newydd, dan arweiniad artistiaid a gwneuthurwyr proffesiynol.

 

Bydd sesiynau eleni yn canolbwyntio ar gynhyrchu syniadau, darganfod eich llais creadigol, a dysgu sgiliau newydd. Bydd hefyd yn cynnwys ymweliad â FfotoGallery yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 23 Medi. Yma, bydd y grŵp yn cael taith o gwmpas yr arddangosfa bresennol a chymryd rhan mewn gweithdy dan arweiniad eu tîm.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Swyddog Ymgysylltu, Louise, yn: [email protected]neu rhowch alwad i ni ar 01633 483321

 

I ymgeisio, llenwch y FFURFLEN hon.

 

Ein dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 9am ar 17 Gorffennaf 2023