ORIEL 2
BANANAS – ED LEWIS
12 MEDI – 21 TACHWEDD

 

Mae Bananas yn osodiad ymdrochol gan yr artist perfformio Ed Lewis sy’n gwahodd gwylwyr yn syth i mewn i feddwl yr Artist.

 

Trwy lens digrifwch, mae’r gwaith hwn yn cynnig golwg mympwyol ar ddelio â meddyliau ac emosiynau o ddydd i ddydd. Nodweddir Bananas gan gymeriadau a luniwyd yn orwyllt a moedro anhrefnus ac mae’n cofleidio dwli ynghyd â myfyrio ar yr awydd i wneud synnwyr o hurtrwydd. Mae hefyd yn dangos y llinell beryglus rhwng ymdopi drwy ddefnyddio hiwmor a’i ddefnyddio i allwyro emosiynau dyfnach.

Mae Ed Lewis yn Artist Cymreig sy’n arbenigo mewn Celf Perfformiadol a Gosodiadau. Enillodd ei MA mewn Celfyddydau Cain yng Ngholeg Celf Chelsea yn 2021 a’i BA (Anrh) mewn Celf ym Mhrifysgol Reading yn 2020, ac mae wedi arddangos gwaith yn Tbilisi a Llundain, yn cynnwys Oriel Cookhouse ac Oriel Saatchi.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 12 Medi 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 21 Tachwedd 2026.