ORIEL 1
HUFF AND PUFF – VIVIENNE BEAUMONT
6 MAI – 29 GORFFENNAF

 

Ar gyfer yr arddangosfa solo hon, mae’r brodiwr â pheiriant Vivienne Beaumont yn rhannu cyfres newydd o decstilau wedi’u pwytho storïol a ysbrydolwyd gan straeon tylwyth teg. Mae Huff and Puff yn ffrwyth ymchwil Vivienne i fyceliwm, systemau compostio natur. Mae Vivienne wedi’i chyfareddu gan y broses a’r posibilrwydd o drawsnewid gwastraff cynhaeaf euraid yn ddeunydd pacio ac inswleiddiad y gellir eu compostio. Mae’r broses hon yn profi bod gan ddeunyddiau organig y potensial i ddisodli’r cynhyrchion petrocemegol sy’n llenwi safleoedd tirlenwi. Mae’r gyfres newydd hon yn adlewyrchu’r ffaith fod gan natur y pŵer i drawsnewid ac adnewyddu, gan roi gobaith mewn cyfnod o bryder cyffredinol.

 

“Rwy’n defnyddio straeon tylwyth teg ar gyfer naratif newydd a ysbrydolir gan fy ymchwil. Mae’r ffigurau’n hwffian ac yn pwffian ac yn chwythu sborau, gan gyfeirio at y tri mochyn bach a adeiladodd â gwellt, brigau a brics, tra bod y ferch yn nyddu gwellt yn aur.” – Vivienne Beaumont

Ar y cyd â Huff and Puff, mae cyfres Needles and Pins Vivienne yn cynnig dehongliad amgen i ni o stori’r Hugan Fach Goch. Yn draddodiadol roedd hon yn stori rybuddiol sy’n adrodd am ddefod newid byd merch ifanc, ei phroses o dyfu i fyny, gadael y cartref teuluol, a phrofi colli ei gwyryfdod yn drosiadol trwy golli gwaed. Yn ei phwythau, mae Vivienne yn gwyrdroi’r wybodaeth hon, gan ailgastio’r blaidd fel yr amddiffynnydd, yn hytrach na’r ysglyfaethwr. Mae hyn yn newid y bygythiad gan gymeriad gwirioneddol i gysyniadau haniaethol, fel y pethau anhysbys a thywyllwch.

 

Gwnaed y ddau gorff o waith yn defnyddio brodio â pheiriant ac yna eu haddurno â ffibrau a phwythi. Defnyddiodd Needles and Pins glytwaith o gefndiroedd, tra bod Huff and Puff wedi defnyddio cefndiroedd printiedig ynghyd â’r dechneg gwiltio pyffiau Suffolk.

 

Trwy archwilio archdeipiau benywaidd, natur a mytholeg, mae gwaith Vivienne yn tynnu ar themâu o’i hymarfer ehangach ac mae’n ailadrodd storïau personol a chyffredinol trwy symbolau ac edau.

 

Bydd digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 6 Mai, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 29 Gorffennaf 2023.