Cyflwyniad i Bastelau

CYFLWYNIADAU I BASTELAU
DYDD MAWRTH 30 MAI

 

Ymunwch â ni ar gyfer Cyflwyniad i Bastelau lle byddwn yn archwilio gwneud marciau mynegiannol ac yn arbrofi gyda lliw a gwead!

Cynhelir y sesiynau rhwng 10yb-12yp neu 1-3yp

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion!

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.