Simplicity and Complexity

ORIEL 1
SIMPLICITY AND COMPLEXITY – JIN EUI KIM
6 MAI – 29 GORFFENNAF

 

Gan weithio rhwng y ddau gysyniad, rhith a realiti, mae’r artist cerameg, Jin Eui Kim, yn archwilio sut gall ein canfyddiad o wrthrychau tri dimensiwn gael eu trin drwy ddefnyddio tôn a gwahanol drefniadau clai.

 

Ar gyfer yr arddangosfa solo hon, Simplicity and Complexity, mae Jin Eui wedi creu cyfres o ddarnau newydd sy’n parhau i ddefnyddio effeithiau optegol cywrain i dynnu sylw a thwyllo’r llygad. Trwy ymchwilio i sut a pham mae ffenomenau gweledol yn ymddangos, mae ymchwil Jin Eui yn archwilio rhithiau optegol, canfyddiad gweledol, a Chelf OP (celf optegol). Mae persbectif gwrthdroi nodweddiadol y peintiwr Patrick Hughes wedi cael dylanwad arbennig arno, ynghyd â phaentiadau geometrig Bridget Riley; defnydd yr artist cerameg, Liz Fritsch, o batrymau; a’r ystyriaeth o gyfaint a dwysedd gan y cerflunydd cyfoes Anish Kapoor.

Trwy ymchwilio i’r gwahanol egwyddorion a thechnegau hyn, mae Jin Eui wedi datblygu ymdeimlad cryf o bwrpas creadigol, gan greu ei effeithiau personol sy’n arbrofi ag elfennau llinol, gwahanol fathau ar raddiant, a’r berthynas rhwng gwrthrych a’i gefndir. Mae hyn yn creu gwahanol ffenomenau gweledol sy’n newid yn ôl sut rydych yn ciledrych neu edrych ar ei ddarnau, neu’n craffu arnynt.

 

“Mae’r teitl ‘Simplicity and Complexity’ yn eiriau sydd bob amser yn fy meddwl wrth i mi greu a gwerthuso fy nghelfwaith. Gall rhai rhithiau neu effeithiau gweledol ymddangos yn syml neu’n hawdd eu profi, tra gall eraill fod yn gymhleth neu’n anodd eu canfod.” – Jin Eui Kim

 

Mae Jin Eui yn artist cerameg byd-enwog sydd wedi bod yn gweithio yng Nghymru ers 17 flynedd. Simplicity and Complexity yw ei arddangosfa solo gyntaf yng Nghymru.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 6 Mai, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 29 Gorffennaf 2023.

CATALOG YR ARDDANGOSFA

I weld y Catalog Cymraeg cliciwch yma.

 

Galwch heibio i’n siop grefftau i brynu copi papur dwyieithog o’r catalog (£5)