GWEITHDAI LLYFRAU BRASLUNIO

GWEITHDAI LLYFRAU BRASLUNIO

Gwneud Marciau a Syniadau Mynegiannol gyda Keith Bayliss
Dydd Sadwrn 21 Mai, 10am – 3pm

Mae Keith yn credu bod llyfrau brasluniau yn fannau personol sy’n cynnwys dechreuad syniadau sydd â’r potensial i dyfu, gan ddod yn brintiau, paentiadau neu luniadau. Yn y gweithdy hwn, bydd yn dechrau drwy eich tywys o gwmpas yr arddangosfa bresennol, The Sketchbook, gan drafod yr amrywiol ddulliau a ddefnyddiwyd gan yr artistiaid. Yna bydd yn eich llywio drwy amrywiaeth o gyfryngau darlunio i archwilio natur gwneud “brasluniau”, darlunio fel cymorth cof, a nodiadau gweledol. Bydd hyn yn arwain at gynhyrchu syniadau ar thema y gellir ei datblygu i greu darn gorffenedig o waith.

Dewch â llyfr braslunio A5 neu A4.

Bydd egwylion drwy gydol y dydd ac mae ein caffi ar agor o 9.30am-3.30pm ac yn cynnig bwydydd lleol, diodydd, danteithion melys a mwy!

Bwciwch drwy Eventbrite oneu ffoniwch ni ar: 01633 483321

Pris y sesiwn yw £33

Gwneud Llyfrau gyda Richard Cox
Dydd Sadwrn 28 Mai, 10am – 3pm

Ymunwch â Richard yn ein gweithdy i greu eich llyfr braslunio drwy’r grefft draddodiadol o wneud llyfrau. Darperir yr holl ddeunyddiau, a bydd Richard yn dangos i chi sut i blygu, gwnïo a rhwymo yn defnyddio offer traddodiadol fel plygwyr papur asgwrn.

Bydd egwylion drwy gydol y dydd ac mae ein caffi ar agor o 9.30am-3.30pm ac yn cynnig bwydydd lleol, diodydd, danteithion melys a mwy!

Bwciwch drwy Eventbrite neu ffoniwch ni ar: 01633 483321

Pris y sesiwn yw £27

Sesiynau Galw Heibio i Greu Llyfrau Brasluniau
Dydd Llun 25 Ebrill, 16 Mai a 6 Mehefin, 10am-12pm

Dewch i’n sesiynau galw heibio am ddim gyda Louise Tolcher-Goldwyn. Bydd y rhain yn rhedeg ar ddydd Llun bob mis yn ystod ein harddangosfa, The Sketchbook.

Mae croeso i chi aros am 10 munud, neu’r 2 awr gyfan, ac archwilio gwahanol ffyrdd o ddefnyddio llyfr braslunio a chynhyrchu syniadau creadigol, neu gallech greu eich llyfr eich hun o hen gylchgronau!

Mae’r lleoedd yn gyfyngedig yn yr oriel – os hoffech roi gwybod eich bod yn dod, ffoniwch ni ar: 01633 483321

Sesiwn am ddim.