DOSBARTHIADAU CELFYDDYD HANNER TYMOR JIWBILÎ

YSTAFELL DDYSGU
DOSBARTHIADAU CELFYDDYD HANNER TYMOR JIWBILÎ
30 MAI — 01 MEHEFIN 2022

 

Dewch draw i un o’n gweithdai am ddim i bobl ifanc (5-13 oed) a theuluoeddi greu hetiau a fflagiau i ddathlu jiwbilî’r frenhines!

CELF + CHREFFT I’R TEULU

Cynhelir y dosbarthiadau hanner diwrnod ar y dyddiadau canlynol rhwng10am-12pm a 1-3pm

Dydd Llun 30 Mai- ‘Y Llyfr Braslunio’

Mae’r sesiynau celfyddyd hyn i deuluoedd yn cyd-daro gydag arddangosfa ‘ Llyfr Braslunio’ sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd yn Llantarnam Grange. Gall mamau, tadau, neiniau, teidiau, plant 5 oed + ac aelodau eraill y teulu fwynhau creu gyda’i gilydd, gan ystyried deunyddiau, technegau a dulliau newydd o weithio mewn llyfrau braslunio.

Mae’r sesiynau teulu ar gyfer grwpiau teuluol neu swigod o hyd at 6. Awgrymwn gyfraniad o £10 y teulu.

DOSBARTHIADAU CELF I BOBL IFANC

Cynhelir y dosbarthiadau hanner diwrnod ar y dyddiadau canlynol rhwng 10am-12pm a 1-3pm.

Dydd Mawrth 31 Mai – Creu Fflagiau Jiwbilî
Dydd Mercher 1 Mehefin – Dylunio a Chreu Het Jiwbilî

Awgrymir cyfraniad o £2.00 fesul sesiwn.

Mae creu Fflagiau’r Jiwbilî yn rhan o brosiect Ziba Creative, Addurno a Dathlu, mewn partneriaeth â Winding House a Llantarnam Grange.

Mae lle yn gyfyngedig felly mae’n hanfodol bwcio ymlaen llaw.

Dewiswch pa slot fyddai orau gennych – bore neu brynhawn – yna cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 i drefnu eich lle.

Noder: yr un cynnwys sydd yn y sesiynau bore a phrynhawn.