ORIEL 1 / YSTAFELL DDYSGU
SGWRS/ARDDANGOSIAD ARTIST: JIN EUI KIM
10 MEHEFIN, 11YB-1YP
Ar ddydd Sadwrn 10 Mehefin, bydd yr artist cerameg, Jin Eui Kim, yn siarad am ei ymarfer ac yn arddangos rhai o’i brosesau. I ddechrau, bydd cyfle i gerdded trwy arddangosfa gyfredol Jin Eui, ac yna bydd Jin Eui yn arddangos dwy dechneg, sef taflu ar droell a thechnegau gorffen, i fyny’r grisiau yn ein Hystafell Ddysgu. Trwy ddangos yr amrywiol ffurfiau y gellir eu creu, a sut i wneud rhigolau ar yr wyneb, bydd Jin Eui yn rhoi cipolwg ar sut mae’n creu gwahanol ffenomenau rhithiol.
Mae Jin Eui yn artist cerameg byd-enwog sydd wedi bod yn gweithio yng Nghymru ers 17 flynedd. Simplicity and Complexity yw ei arddangosfa solo gyntaf yng Nghymru.
Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma, ocysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.