Pryfed Peillio

PRYFED PEILLIO
10 MEHEFIN, 10YB-3YP

 

Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 10 Mehefin, 10yb-3yp, am weithgaredd creadigol galw heibio am ddim yn ein horielau ar y llawr gwaelod.

 

Fel rhan o’r Wythnos Fawr Werdd, byddwn yn ymateb i’r thema ‘Pryfed Peillio’ drwy greu creaduriaid gyda defnydd ac edau.

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.