ORIEL 2
THE TERROR
30 TACHWEDD – 15 CHWEFROR
Arddangosfa o ddarluniau gan yr artist a’r cerddor Jon Langford.
Mae’r cyhoeddwyr o Gasnewydd, Three Impostors, wedi comisiynu’r artist a’r cerddor Jon Langford i ddarlunio eu hargraffiad newydd o nofel fer Arthur Machen, The Terror, lle mae natur yn troi yn erbyn y ddynoliaeth. Cyflwynir yr argraffiad newydd hwn gan yr ysgrifennwr arswyd a ffantasi ddu arobryn, Tim Lebbon.
Cyhoeddwyd The Terror yn gyntaf yn 1917 pan oedd arswyd y Rhyfel Mawr yn ei anterth. Credir yn gyffredinol mai The Terror yw prif ysbrydoliaeth ffilm glasurol Alfred Hitchcock yn 1963, The Birds. Gellir hefyd olrhain y cysyniad hwn nôl drwy storïau o’r un enw gan Daphne du Maurier (1952) a Frank Baker (1936).
Bydd enghreifftiau Jon yn cael eu harddangos yn Oriel 2, gan fywiogi’r nofel fer.
Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 30 Tachwedd 4-6pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 15 Chwefror 2025.