ORIEL 1
CACÚLO – TONI DE JESUS
30 TACHWEDD– 15 CHWEFROR

 

Cacúlo: (ca·cgu·lu) gair sy’n golygu pentwr o bridd neu glai yn slang Madeira.

 

Mae’r sioe deithiol hon yn adeiladu ar syniadau sy’n deillio o sioe unigol Toni De Jesus ym MUDAS – Museu de Arte Contemporânea da Madeira (Portiwgal, 2023). Mae’n canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng yr artist, y gwaith, y defnydd a lle.

 

Mae gan Toni hanes o fudo ac mae hwn yn creu’r ymdeimlad o berthyn a hefyd o beidio â pherthyn. Yn gyfochrog â hyn mae ei waith yn bodoli yn y gofod rhwng traddodiad a thorri â thraddodiad, y swyddogaethol a’r answyddogaethol, crefft a chelfyddyd wedi’i seilio ar syniadau. Ffurfir hunaniaeth Toni yn y gofod rhwng y rhain. Ac yntau wedi’i ysgogi gan yr awydd i berthyn, mae Toni’n archwilio themâu yn ymwneud â lle, cof, a cholled, sef elfennau craidd ei brofiad o fudo.

Drwy archwilio sut cafodd ddefnyddiau lleol, megis tywod, creigiau, gwaddodion a chleiau eu defnyddio mewn cerameg drwy gydol hanes 600 mlynedd Madeira roedd Toni’n gallu canfod dolen ddiriaethol rhwng yr hyn sy’n diffinio o le mae’n hanu a phwy ydyw.

 

Mae’n ymchwilio hefyd i dreftadaeth nad yw’n gorfforol – y rhannu o straeon, chwedlau a chaneuon sydd wedi’u trosglwyddo gan deulu a chymdogion. Mae hyn yn creu cyflinell rhwng rhywbeth solet, megis gwaith cerameg wedi’i danio mewn odyn dân pren a’r darfodus, megis y si ynglŷn â sut y bu i’w fam-gu gyfarfod â’i dad-cu. Mae’r gwaith a ddatblygwyd yn archwilio’r syniadau hyn mewn cyd-destun gwahanol. Mae byw yng Nghymru dros y naw mlynedd ddiwethaf wedi trawsnewid Toni i’r person y mae heddiw.

 

Mae llawer o bobl yn gallu uniaethu â’r syniad o fod yn y naill le neu’r llall. Drwy’r arddangosfa hon mae Toni’n gwahodd y gwylwyr i synfyfyrio ar eu hunaniaeth eu hunain a ffordd mae’r profiadau hyn yn siapio’u dealltwriaeth o Cacúlo.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 30 Tachwedd 4-6pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 15 Chwefror 2025.

 

Arddangosfa ar y cyd rhwng Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange a Chanolfan Grefft Rhuthun a gyllidwyd gan gronfa Creu Cyngor Celfyddydau Cymru.