CERDDORIAETH FYW
JON LANGFORD & THE MEN OF GWENT
30 TACHWEDD, 7YP
Rydym yn cynnal perfformiad acwstig gan Jon Langford & the Men of Gwent yn ein cyntedd ddydd Sadwrn 30 Tachwedd.
Nifer cyfyngedig o docynnau ar werth nawr trwy Eventbrite
Cost tocynnau yw £5
Rhaid i bobl ifanc dan 16 oed fod gydag oedolyn.
Mae’r perfformiad hwn yn cyd-fynd â The Terror, arddangosfa o ddarluniau a grëwyd gan Jon ar gyfer argraffiad newydd o stori fer Arthur Machen o’r un enw. Comisiynwyd y cyhoeddiad hwn gan gyhoeddwyr Casnewydd ‘The Three Impostors’.
HANES
Mae Jon Langford yn gerddor ac yn artist a anwyd yng Nghasnewydd. Jon oedd drymiwr gwreiddiol y band pync, y Mekons, a oedd yn cynnwys cerddoriaeth gwlad a gwerin mewn roc pync. Mae Jon wedi rhyddhau nifer o recordiadau fel artist solo hefyd, a gyda bandiau eraill, yn benodol y Waco Brothers, Skull Orchard, ynghyd â’i fand Men of Gwent.
Pan symudodd Jon i Chicago yn gyntaf yn 1992 teimlai ei bod yn bwysig iddo ffurfio band yng Nghasnewydd, fel y gallai gadw mewn cysylltiad â’i wreiddiau a chael dychwelyd ar gyfer cyfarfodydd y band yn Nhafarn y Riverside.
Mae Jon Langford a’i Men of Gwent yn gweithio gyda’r label leol Country Mile, a’u henw blaenorol oedd LL. Eu halbwm cyntaf yn 2015 oedd the Legend of Li sy’n rhannu caneuon ynglŷn â’u tref enedigol – cawsant eu hysgrifennu ar draws yr Iwerydd ac, o bryd i’w gilydd, mewn person. Cafodd eu hail albwm, President of Wales, ei ryddhau ym mis Tachwedd 2019 a Lost On Land & Sea yn 2023.