FFEINDIO’CH FFORDD YN U CELFDDYDAU
DYDD SADWRN 2 TACHWEDD, 2-3PM
Gwrandewch ar artistiaid newydd, cynnar, ac yng nghanol eu gyrfa, yn myfyrio ar eu taith i fyd y celfyddydau a sut maent yn parhau i ddod o hyd i waith, a ffyrdd, ar gyfer eu creadigrwydd.
Gyda myfyrdodau gan Ffion Williams, Sadia Pined Hameed, a Sophie Lindsey.
Os hoffech ymuno, bwciwch eich lle am ddim drwy Eventbrite yma.
Cynhelir y sgwrs ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.
FFION WILLIAMS
Mae Ffion yn artist o’r Fenni, sy’n gweithio yn Ne Cymru ac yng Nghaeredin. Derbyniont BA mewn Peintio o Goleg Celf Caeredin ac enillont y Wobr Pryniant yn y Sioe Raddedigion. Arddangosont yn ein harddangosfa flynyddol i raddedigion, Portal, yn 2023.
Mae gwaith Ffion yn defnyddio’r Gymraeg i archwilio hunaniaeth, Cymreictod a pherthyn. Mae eu prosiect parhaus, Cymraeg Ddrwg, yn defnyddio iaith fel erfyn esblygol ar gyfer creu, haenu testun, celfwaith, fframiau metel, a sain i greu gwaith sydd wedi ymbellhau oddi wrth eglurder. Mae ymarfer Ffion yn amlygiad o’u perthynas gymhleth ac annifyr â Chymreictod, a’i nod yw rhannu storïau tebyg ar raddfa ehangach.
Ers graddio, mae Ffion wedi rhedeg nifer o weithdai celf i blant ac mae wedi bod yn aelod gweithgar o’r gydweithfa Mutual Artists Studio Co-operative. Mae Mutual yn stiwio dan arweiniad artistiaid yng Nghaeredin, lle mae’r aelodau’n cydweithio i redeg y lle, gan ddarparu a chynnal mannau agored fforddiadwy i artistiaid.
Ar hyn o bryd mae Ffion yn arddangos Cymraeg Ddrwg yn oriel bwrdd posteri Llantarnam Grange ac yn rhedeg gweithdai sy’n annog arbrofi a chwarae gydag iaith.
SADIA PINEDA HAMEED
Mae Sadia yn artist ac yn ysgrifennwr Pacistanaidd Ffilipino sy’n byw yng Nghwm Ebwy. Astudiodd Lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn datblygu ei hymarfer celfyddydau gweledol, yn rhannol trwy greu’r cyhoeddiad celfyddydau LUMIN.
Mae ei gwaith yn archwilio ffyrdd cudd o siarad am drawma cyfunol ac sy’n pontio’r cenedlaethau trwy strategaethau gwrthdrefedigaethol cynhenid, sef breuddwydio, cymuno telepathig a chyfrinachau. Gan ddefnyddio ffilm, gosodiad, testun, perfformiad ac ymchwil i offer cyfalafol a threfedigaethol fel epistemiladdiad ac ecoladdiad, mae ei gwaith hefyd yn dychmygu sut olwg fyddai ar offer y dyfodol ar gyfer gwrthwynebiad, gwerth a chyfathrebu sy’n ymgodi o’r strategaethau hyn.
Mae wedi arddangos gydag Iniva, Mosaic Rooms, Bluecoat, Catalyst Arts, Brent Biennial, g39, Chapter, MOSTYN ac eraill, ac mae wedi derbyn Gwobr Paul Hamlyn ar gyfer Artistiaid Gweledol, Gwobr Ysgrifenwyr Newydd Llenyddiaeth Cymru, Cymrodoriaeth Freelands a Chymrodoriaeth British School at Rome.
Ar hyn o bryd mae Sadia yn gweithio gyda Llantarnam Grange a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru i ddatblygu corff newydd o waith sy’n archwilio sut mae mudiadau radical y gorffennol yn bodoli mewn cydsafiad rhyngwladol â mudiadau heddiw.
Bydd arddangosfa o waith Sadia yn Llantarnam Grange ym mis Mai 2025.
SOPHIE LINDSEY
Mae Sophie wedi gweithio’n rhan amser fel ein Swyddog Marchnata a Datblygu ers 2019, gan symud o fod yn artist llawrydd creadigol llawn amser i weithio mewn tîm bach mewn elusen y celfyddydau a ariennir yn rheolaidd.
Graddiodd Sophie yn 2014 gyda BA mewn Celfyddyd Gain: Ymarfer Beirniadol o Brifysgol Brighton, ac mae wedi treulio 10 mlynedd yn symud rhwng prosiectau tymor byr, interniaethau, gwaith ysbeidiol, preswyliadau, cydweithrediadau, ac addysg ôl-raddedig – gan weithio ledled Cymru, Lloegr, Yr Alban, ac yn rhyngwladol yn yr Iseldiroedd, Sbaen a’r UD.