DIGWYDDIAD AGOR + GWEITHGAREDDAU’R ARDDANGOSFA
31 MAI, 11YB-4YP
Yn ystod digwyddiad agor yr arddangosfeydd newydd, Agimat, yn Llantarnam Grange, a Signal, yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, byddwn yn dathlu lansiad gwaith newydd yr artist Sadia Pineda Hameed drwy sgyrsiau, teithiau, a gweithgareddau!
Mae Sadia wedi bod yn gweithio gyda Llantarnam Grange a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ymchwilio i elfennau o’r casgliad er mwyn amharu ar etifeddiaethau trefedigaethol.
Mae’r digwyddiad a’r arddangosfeydd hyn yn rhan o Safbwynt(iau), sef rhaglen gelfyddydau Gymreig uchelgeisiol, sy’n dod â saith artist, saith o safleoedd Amgueddfa Cymru, a saith sefydliad celfyddydau gweledol ledled y wlad at ei gilydd.
RHAGLEN
LLANTARNAM GRANGE, CWMBRÂN
Sesiwn Sgwrs gan yr Artist: Sadia Pineda Hameed, 11am
Bydd yr artist Sadia Pineda Hameed yn siarad am ei hymarfer, gan rannu’r ymchwil ehangach y tu ôl i’w harddangosfa solo newydd, Agimat.
Bydd Sadia yn myfyrio ar ei phrofiad a’r broses o weithio gyda chasgliadau’r amgueddfa, gan rannu’r syniadau a’r themâu yn ei gwaith newydd a arddangosir yn Llantarnam Grange a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.
Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma.

Digwyddiad Agor, 12-2pm
Ymunwch â ni yn nigwyddiad agor ein cyfres nesaf o arddangosfeydd o 12-2pm, yn cynnwys yr arddangosfa solo Agimat gan Sadia Pineda Hameed yn Oriel 1; MMM NOTE, y gwaith newydd ar raddfa fawr gan yr artistiaid Kerstin Kartscher a Sadia Pineda Hameed yn ein Horiel Bwrdd Posteri; Trans Iberia, corff o waith yr artist John Selway o’n casgliad parhaol yn Oriel 2; ac arddangosfa grŵp gan fyfyrwyr y Radd Sylfaen Artist Dylunydd Gwneuthurwr newydd yng Ngholeg Gwent Crosskeys yn ein cyntedd.
Dyma fydd y cyfle olaf i weld y casgliad hwn o waith John Selway, a fydd yn mynd ar daith yn ddiweddarach eleni.
Bydd Caffi Llantarnam Grange ar agor o 9.30am – 3.30pm, a derbynnir yr archebion olaf am 2.30pm.

Ffrydio byw, drwy’r dydd
Gwrandewch yn fyw yma.
Bydd yr artist Mort Drew o Soundcamp, sef cydweithfa gelf sy’n gweithio ar ecolegau trawsyrru, yn ffrydio’r digwyddiad agor yn fyw, yn cynnwys sgwrs Agimat Sadia a thaith Signals. Byddant yn ffrydio o gantîn y Baddondai Pen Pwll yn Big Pit, a hefyd yn chwarae ymyriad ecolegol darlledu, gan dynnu ar synau’r amgueddfa lofaol a’r cwmpasoedd.
Ar gyfer y Ffrydio Byw, mae Angus Carlyle wedi cyfrannu recordiad o lofa Gruv 7, y lofa olaf sy’n gweithredu ar ynysfor Svalbard (yn yr Arctig), lle mae’n gwneud ymchwil ar hyn o bryd. Bydd y lofa yn cau ymhen rhai wythnosau.
Mae Mort Drew yn artist sain a technegydd creadigol yn gweithio ar wrando gwastad a darlledu cyfunol drwy ymarferiadau radio arbrofol ecolegol. Mae eu gwaith yn archwilio byrhoedledd, radio gweithredol a dulliau amgen o ddod ynghyd, trwy weithio yn bennaf gyda deunyddiau sain sonig.
Mae Angus Carlyle yn artist sy’n byw yn Brighton yn y DU ar hyn o bryd. Mae’n troi ei brofiadau mewn amgylcheddau yn ysgrifennu, recordiadau maes, lluniau, ffilmiau: yn aml mae’n gweithio’n gydweithredol, gan geisio gwrando ar, a gyda gwrandawyr eraill.
BIG PIT AMGUEDDFA LOFAOL CYMRU, BLAENAFON
Signals: Digwyddiad Agor + Taith, 2-4pm
Teithiwch gyda ni i Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru far gyfer lansiad corff newydd o ffilm, sain a gwaith cerfluniol gan Sadia Pineda Hameed, sy’n archwilio sut mae mudiadau radical y gorffennol yn bodoli mewn cydsafiad rhyngwladol â mudiadau heddiw.
Bydd coets am ddim yn gadael Llantarnam Grange yn brydlon am 2pm.
Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Bydd Sadia yn arwain taith o gwmpas ei gwaith am 2.30pm; dilynir hyn gan Ddigwyddiad Agor am 3pm. Bydd y goets yn gadael Big Pit am 4pm, ac yn dychwelyd i Llantarnam Grange.
Os oes gennych gludiant, gallwch fynd yno i weld y gwaith ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod.
Arddangosir Signals yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru tan 31 Awst.
Mae hon yn rhan o Safbwynt(iau), sef cydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
