GWEITHGAREDDAU HANNER TYMOR
27, 28 MAI
Yn ystod hanner tymor mis Mai, byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau creadigol i oedolion, pobl ifanc, teuluoedd a phlant sy’n 5 neu’n hŷn
GWNEUD FFANSÎN + YSGRIFENNU STORI
DDYDD MAWRTH 27 MAI 10YB-12YP a 1-3YP
Ymunwch â’r darlunydd/ysgrifennwr Osian Grifford ar ddydd Mawrth 27 Mai 10am-12pm ac 1-3pm mewn gweithdy gwneud ffansîn. Defnyddiwch gemau ysgrifennu, collage, a dwdlan i greu llyfrau storïau byr i’w rhannu.
Bydd y gweithdy hwn yn Gymraeg a Saesneg a daw ei ysbrydoliaeth o’n prosiect diweddar Cymraeg Ddrwg, gan Ffion Williams.
Mae Osian yn ddarlunydd Llyfrau Plant, Nofelau Graffig a chartwnau gwleidyddol.
Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, fellly dewiswch un slot wrth fwcio.
Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.
DEWCH DRAW I DDWDLAN
DDYDD MERCHER 28 MAI, 10YB-12YP a 1-3YP
Galwch heibio i ddwdlan, ysgrifennu, neu greu ffansîn collage gyda’r darlunydd Osian Grifford yn ein horielau ar y llawr gwaelod.
Mae’r gweithgareddau hyn ar gyfer oedolion a phobl ifanc 5+ sydd eisiau archwilio’u creadigrwydd mewn lleoliad artistig a chyfforddus.
Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.
