SGYRSIAU DIGWYDDIAD AGOR
1 MAWRTH, 11.30YB-2YP
Ar y cyd â’r digwyddiad agor ar gyfer ein harddangosfeydd newydd, bydd yr artistiaid Keith Bayliss a Sahar Saki yn rhannu rhai o’r syniadau a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w gwaith diweddar.
Mae’r ddwy sgwrs am ddim, a does dim angen bwcio.
Sesiwn Sgwrs yr Artist: Sahar Saki, 11.30am
Bydd yr artist rhyngwladol Sahar Saki yn trafod ei hymarfer a’i harddangosfa drochi newydd Persian Tour yn Oriel 2.
Llantarnam Grange yw’r arhosfan cyntaf ar y daith hon, a fydd yn esblygu ar hyd y flwyddyn gyda phedair arddangosfa amlsynhwyraidd ar draws De Cymru. Mae pob taith yn ceisio trawsnewid yr oriel yn ddathliad llawen o dreftadaeth ddiwylliannol Persia.

Mewn Sgwrs gyda Keith Bayliss, 1.30pm
Bydd yr artist Keith Bayliss Mewn Sgwrs gyda’r darlithydd a’r curadur Sally Moss yn Oriel 1 i drafod ei ymarfer a’r gwaith yn ei arddangosfa solo newydd Singing in Darkness.
Bydd Keith yn myfyrio ar ei broses o ddarlunio a braslunio fel man cychwyn ar gyfer gwneud a rhannu’r syniadau a’r themâu yn ei ddau gorff bach o waith, Fields of Souls a Proserpina.

Digwyddiad Agor, 12-2pm
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad agor ein set nesaf o arddangosfeydd o 12-2pm, yn cynnwys yr arddangosfa solo Singing in Darkness gan Keith Bayliss yn Oriel 1; y gosodiad trochi Persian Tour gan Sahar Saki yn Oriel 2; arddangosfa grŵp gan fyfyrwyr graddedig o YCDC Cerameg yn ein cyntedd; a gwaith gan Vision Arts, grŵp amryddawn annibynnol sy’n gweithredu yn Ne Cymru, yn ein Caffi.