ORIEL 2
PERSIAN TOUR – SAHAR SAKI
1 MAWRTH – 17 MAI
Arddangosfa drochi gan yr artist rhyngwladol Sahar Saki, sy’n trawsnewid yr oriel yn ddathliad llawen o dreftadaeth ddiwylliannol Persia.
Llantarnam Grange yw’r arhosfan cyntaf ar daith Persian Tour Sahar, a fydd yn esblygu ar hyd y flwyddyn gyda phedair arddangosfa amlsynhwyraidd ar draws De Cymru.


Trwy beintio, caligraffeg, barddoniaeth a llenyddiaeth, mae Sahar yn siapio lleoedd er mwyn ein cludo i fyd a ysbrydolir gan ei threftadaeth ddiwylliannol Iranaidd. Geiriau yw sylfaen ei gwaith yn aml – peintio barddoniaeth a chaligraffeg ar waliau, nenfydau, neu loriau gyda brwshys mawr. Mae’r peintio haniaethol a’r patrymau traddodiadol yn ychwanegu gwead a haenau i’r amgylcheddau hyn, gan gyfuno elfennau Persiaidd traddodiadol â ffurfiau celfyddyd gyfoes.
Mae Persian Tour yn fwy nag arddangosfa: mae’n ddathliad, yn daith, ac yn fan cyfarfod ar gyfer diwylliannau.
Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 1 Mawrth, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 17 Mai.
Cyn y digwyddiad agor, bydd Sahar yn rhoi Sgwrs gan yr Artist am 11.30am. Mae’r sgwrs fer hon yn rhad ac am ddim a does dim angen bwcio.
GWEITHGAREDDAU
Drwy gydol yr arddangosfa, bydd Sahar yn rhedeg cyfres o weithdai, gweithgareddau a dathliad ar gyfer Nowruz (Y Flwyddyn Newydd Bersiaidd) ar ddydd Gwener 21 Mawrth. Cewch fwy o wybodaeth cyn hir.
Dydd Sadwrn 1 Mawrth, 11.30am – Sgwrs gan yr Artist
ARDDANGOSFEYDD YN Y DYFODOL
Bydd Persian Tour yn parhau, gan deithio i dair oriel arall eleni. Bydd pob arddangosfa yn adeiladu ar yr un flaenorol, gan greu amgylcheddau newydd ar gyfer teimlo, ac ymgysylltu â diwylliant Persia.
4 Ebrill – 17 Mai – Oriel Elysium, Abertawe
15 Gorffennaf – 15 Awst – Canolfan Gelfyddydau Span, Arberth
Medi – Hyd – Future Arts Collective Cymru, Caerdydd
