ORIEL 1
SINGING IN THE DARKNESS – KEITH BAYLISS
1 MAWRTH – 17 MAI
Mae Singing in the Darkness yn arddangosfa solo gan yr artist Keith Bayliss, sy’n archwilio darlunio fel y man cychwyn ar gyfer creadigrwydd. Yn y blynyddoedd diwethaf mae Keith wedi canolbwyntio ar ddangos ei ffigyrau bach papur sidan. Ond fel llawer o’i waith, dechreuodd y lluniadau tri dimensiwn hyn ar ffurf darluniau.
I adlewyrchu’r broses hon, mae Keith yn rhannu dau gorff bach o waith (neu ddau bentwr bach o bapur) Fields of Souls a Prosperina, ar y cyd â sainlun gan ei fab Joe Bayliss a barddoniaeth gan ei ffrind David Thomas. Mae’r ddwy set o ddarluniau’n ymwneud ag agweddau ar golled, ymdeithio, a dod o hyd i hafan ddiogel.

Yn eistedd wrth fwrdd y gegin, canolfan greadigol ei aelwyd, gyda phentwr o bapur a phot o inc, mae Keith yn meddwl am beth fydd yn glanio ar y petryal gwyn noeth o bapur o’i flaen. Cyn hir, mae wynebau’n dechrau ymddangos, cast o gymeriadau cyfarwydd sydd wedi poblogi llyfrau brasluniau dros flynyddoedd lawer.
Yn ei holl waith ffigurol a mynegiannol, mae Keith wedi defnyddio amrywiaeth o gyfryngau, o bensil ac inc ar bapur, olew ar gynfas, i brintio cerfweddol. Yn fwy diweddar, mae wedi creu cerfluniau bach cyfryngau cymysg.
Er bod y ffocws ar ddarlunio, mae Singing in the Darkness yn dod ag amrywiaeth o wahanol gyfryngau a chymeriadau at ei gilydd, gan greu cartref dros dro lle gallant orffwys, teimlo’n saff, a thyfu.
Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 1 Mawrth, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 17 Mai.
Bydd Keith Mewn Sgwrs gyda’r darlithydd a’r curadur Sally Moss, yn y digwyddiad agor ddydd Sadwrn 1 Mawrth, am 1.30pm. Mae’r sgwrs yn rhad ac am ddim a does dim angen bwcio.

