PWDINAU FFANTASI
13 MEDI, 10YB-12YP + 1-3YP
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 13 Medi 10am-12pm ac 1-3pm i greu darluniau dychmygol o gacennau a danteithion mympwyol. Arbrofwch gyda dyfrlliw ac ysgrifbin i greu llyfryn o bwdinau ffantastig a ysbrydolir gan ddarluniadau llyfr coginio cynnar Andy Warhol.
Mae hyn yn rhan o Lwybr Bwyd Torfaen. Dysgwch fwy a galwch heibio i’r mannau stopio eraill ar y llwybr i gasglu stampiau!
Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, felly dewiswch un slot wrth fwcio.
Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at hello@llantarnamgrange.com i fwcio eich lle
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

