Ymunwch â’n Bwrdd

YMUNWCH Â’N BWRDD

YMUNWCH Â’N BWRDD

 

Mae Llantarnam Grange yn chwilio am ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n bwrdd. Rydyn ni’n chwilio am bobl a all gynnig eu sgiliau, eu profiadau a’u brwdfrydedd i arwain ein sefydliad fel y ganolfan gelfyddydau ranbarthol ar gyfer crefftau a chelfyddydau gweledol yn y de ddwyrain. Os ydych chi’n angerddol am ein gwaith gyda gwneuthurwyr, artistiaid, pobl ifanc, ein cymuned leol, a’n cynulleidfaoedd ehangach, ac os ydych am wneud gwahaniaeth i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru, bydden ni’n falch o glywed gennych chi.

 

Rydyn ni’n chwilio’n arbennig am bobl sy’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf neu’n ddysgwyr Cymraeg lefel uwch ac/neu sydd â phrofiad o weithio’n ddwyieithog.

 

SUT I WNEUD CAIS

 

Cyflwynwch eich CV, llythyr eglurhaol, a’r ffurflen fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth sydd ar gael drwy glicio ar y ddolen hon i Steph Burge, Cadeirydd, drwy steph.burge@outlook.com neu drwy’r post i Steph Burge, Cadeirydd, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Heol Dewi Sant, Cwmbrân, Torfaen, NP44 1PD

 

Darllenwch ein Pecyn Cais cyn ymgeisio:

 

Ffurflen Gais yn Gymraeg
Application Pack English

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 10yb dydd Mawrth 9 Medi 2025

 

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol gyfrinachol am ddod yn ymddiriedolwr, cysylltwch â Steph Burge, ein Cadeirydd, drwy steph.burge@outlook.com