ORIEL1
PORTAL 2025
30 AWST – 22 TACHWEDD

 

Portal yw ein harddangosfa flynyddol o grŵp o artistiaid a gwneuthurwyr graddedig, a’i nod yw datgyfrinio gweithio yn y celfyddydau. Trwy roi cymorth, offer a’r cyfle i ddatblygu sgiliau i leisiau newydd, mae Portal yn ymestyn y tu hwnt i waliau’r oriel gan roi’r cychwyn gorau posibl i artistiaid datblygol wrth iddynt sefydlu gyrfaoedd cynaliadwy.

 

Trwy glwstwr o arferion sy’n amrywio o gerflunwaith, cerameg, darlunio, gemwaith a delweddau symudol, mae Portal 2025 yn arddangos casgliad o waith 15 o raddedigion eleni. Daw’r artistiaid o sefydliadau Cymreig fel Met Caerdydd, PCDDS Abertawe, Ysgol Gelf Caerfyrddin, a phrifysgolion cenedlaethol fel Prifysgol Caeredin, Prifysgol Gelf Plymouth, a Ysgol Gelf Slade. Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon yn cipio’r syniadau a’r ysbryd cyfunol sy’n dod allan o ysgolion celf eleni.

Mae syniadau sy’n ymwneud â thrawsnewid yn cysylltu’r gwaith a arddangosir, wrth i’r artistiaid edrych ar y byd naturiol, prosesau deunyddiau, eu dychymyg, a hen atgofion i ystyried y ffyrdd rydym yn tyfu ac yn parhau, a’r hyn y gallwn ei ennill a’i golli yn yr enydau hyn o newid.

 

Trwy ddatblygu perthnasoedd â deunyddiau sy’n llifo ac yn esblygu, fel clai a metelau gwerthfawr, mae elfen o siawns yn mynd i mewn i rai o’r darnau o waith. Ond mae artistiaid eraill yn cadw rheolaeth gadarn ar bethau, drwy newid gwaith yn fwriadol, ei addurno neu ei gydosod yn ofalus gyda motiffau wedi’u peintio â llaw, drwy haenu lluniau torri papur a chrafu i mewn i ffilm.

 

Mae dianc i ffantasi trwy fydoedd ymgolli yn cynnig lle amgen ar gyfer trawsnewidiadau. Wrth dynnu ar gysylltiadau plentyndod â llên gwerin, mythau a chwedlau, mae cymeriadau’n trawsffurfio ac yn gweddnewid mewn ffyrdd cyfriniol, gan bylu’r terfynau rhwng bodau dynol ac anifeiliaid.

Yn ôl yn realiti, gellir gweld trawsnewidiadau yn y byd o’n cwmpas hefyd: mewn prosesau naturiol a diwydiannol fel ffurfiannau ogofâu, erydu gan afonydd, ac echdynnu deunyddiau crai sy’n newid ein tirwedd mewn ffyrdd cynhyrchiol a dinistriol.

 

Mae llawer o’r newidiadau hyn yn arwain i ddarnio. O greu craciau yn ein hymdeimlad o hunan, atgofion rhannol neu golli iaith, i’r rhannau ffisegol mewn bleind â slatiau neu ddarnau miniog o gerameg, mae effeithiau tynnu pethau’n ddarnau yn gadael marc bob tro.

 

Mae graddio’n gyfnod o drawsnewid bob amser, ac mae Portal 2025 yn dod â’r cyfleoedd a’r tensiynau sydd ynghlwm wrth newid i’r amlwg trwy gasgliad o waith sy’n annog myfyrdod gonest wrth symud yn ansicr tua’r dyfodol.

 

Cyflwynir gwaith gan:
Adam Thomas, Alicia Olejniczak, Alyssa Patrick, Cerys Oliver, Erin Samuels, Gwenllian Davenport, Isobel Robey, Joy Franklin, Julie Doel, Laura Compton, Louise Grey, Madiha Safdar, Rhana Menzies, Rowan Bartlett, Samuel Franks

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 30 Awst 12-2pm gydag agoriad swyddogol gan Nick Thomas-Symonds MP, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 22 Tachwedd 2025.

CATALOG YR ARDDANGOSFA

Gweler y Catalog Saesneg yma.

 

Galwch heibio i’n siop grefftau i brynu copi papur dwyieithog o’r catalog (£5)