Ysgubellau Gwrachod

YSTAFELL DDYSGU
YSGUBELLAU GWRACHOD
DDYDD SADWRN 18 HYDREF, 1-3YP

 

Ymunwch â’r gwerthwr blodau lleol Kate, o Botanic Possessions, i lunio ysgubellau gwrachod o ganghennau a gweiriau, blodau a pherlysiau wedi’u sychu.

 

Gyda chyfarwyddyd cam wrth gam gan Kate, byddwch yn dysgu technegau ac awgrymiadau blodeuwriaeth i’ch helpu gyda’ch cread.

 

Darperir yr holl offer a deunyddiau.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Bwciwch le drwy Eventbrite yma.

 

Pris: £35 + ffi bwcio

 

Mae Botanic Possessions yn darparu blodau a dyfir yn lleol ar gyfer unrhyw achlysur. Dilynwch nhw i gael rhagor o wybodaeth!

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

BWYD A DIOD

 

Mwynhewch drêt wrth i chi grefftio! Bydd Caffi Llantarnam Grange ar agor, yn gweini ei ddanteithion tymhorol – cawliau, cacennau a chynheswyr y gaeaf.

 

Gweinir Bwyd o 9.30am – 3.30pm, a derbynnir yr archebion olaf am 2.30pm.