Tecstilau Galw Heibio

TECSTILAU GALW HEIBIO
1, 8, 15, 22 HYDREF, 1-3YP

 

Defnyddiwch decstilau i archwilio rhywogaethau a bywyd gwyllt lleol a chael bod yn rhan o FioTapestri Gwent Fwyaf.

Galwch heibio i’n horielau ar y llawr gwaelod i wneud fflora, ffawna a chreaduriaid, a dysgu mwy am beth sy’n byw yn ein hafonydd, pyllau, a’n trefi.

 

Mae hwn yn brosiect cymunedol uchelgeisiol a fydd yn creu tapestri 70 metr i ddathlu ein hecosystemau anhygoel a’r rhywogaethau sy’n byw yn y gwahanol gynefinoedd ar draws Gwent.

 

Mae’r gweithgaredd hwn i oedolion a phobl ifanc 16+

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.

 

Mae hwn yn brosiect Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a gyllidir drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.