Y DARLUN MAWR
27 HYDREF – 1 TACHWEDD
Yn ystod Hanner Tymor Hydref, mae gennym weithgareddau arlunio i bobl o bob oedran a gallu!
Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion. Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.
GWNEUD EICH MARC
DDYDD LLUN – DDYDD SADWRN, 10yb-4yp
Galwch heibio i’n horiel ar y llawr gwaelod a gwneud eich marc drwy ychwanegu at ein darluniau cymunedol.
Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.
Noder bod ein horielau’n cael eu defnyddio weithiau gan grwpiau a gweithgareddau. Os ydych yn bwriadu ymweld ar amser penodol, cysylltwch â ni ymlaen llaw i wirio
ARLUNIO ARBROFOL
28 HYDREF 10YB-12YP a 1-3YB
Ymunwch â ni ddydd Mawrth 28 Hydref 10am-12pm ac 1-3pm i arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o arlunio. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, byddwn yn chwarae gyda phosibiliadau arlunio, mewn arbrofion sy’n mynd y tu hwnt i ysgrifbin a phapur.
Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, fellly dewiswch un slot wrth fwcio.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Bwciwch le drwy Eventbrite yma.
Pris: £5 + ffi bwcio.
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.
DARLUNIAU MINI
29 HYDREF, 10YB-12YP a 1-3YP
Beth yw’r peth lleiaf y gallwch ei arlunio? Ymuwnch â’n sesiwn galw heibio am ddim i wneud darluniau mini.
Mae’r gweithgareddau hyn ar gyfer oedolion a phobl ifanc 5+ sydd eisiau archwilio’u creadigrwydd mewn lleoliad artistig a chyfforddus.
Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.
