Sesiwn Galw Heibio Hanes y Bobl

SESIWN GALW HEIBIO HANES Y BOBL
11 + 14 CHWEFROR

 

Galwch heibio ddydd Mercher 11 neu ddydd Sadwrn 14 Chwefror i rannu unrhyw storïau, atgofion, lluniau, neu wrthrychau o hanes Llantarnam Grange./h4>

P’un ai rydych wedi ymwneud â’r ganolfan gelfyddydau dros y 60 mlynedd diwethaf, neu fod gennych atgofion am yr adeilad fel cartref preifat, swyddfa ddosbarthu’r Swyddfa Bost, neu fel swyddfa arlunio ar gyfer Ffatri Girling, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

 

Efallai y gwnaethoch chi briodi yma? Neu fynychu gweithdai? Cael profiad arswyd? Arddangos gwaith? Meddu ar stiwdio? Gweithio yn ein horiel neu gaffi? Neu addysgu dosbarth?

 

Galwch heibio am sgwrs yn Oriel 2 ar:
Ddydd Mercher 11 Chwefror, 1am-3pm
Dydd Sadwrn 14 Chwefror, 10-12pm

 

Byddwn yn rhannu rhai o’r storïau hyn, ynghyd â’n hanes a deunydd o’n harchifau mewn arddangosfa yn Oriel 2 rhwng 14 a 30 Mawrth 2026.

 

Os hoffech rannu unrhyw beth ond rydych yn methu galw heibio, cysylltwch â ni ar hello@llantarnamgrange.com

 

Mae hyn yn rhan o Llantarnam Grange 60, sef blwyddyn o ddathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân. Ariennir gan Ymddiriedolaeth Colwinston.