Comisiwn Bwrdd Posteri

COMISIWN BWRDD POSTERI

Mae Llantarnam Grange yn chwilio am artist/gwneuthurwr i gydweithio gyda ni ac aelodau rhai o’n grwpiau rheolaidd i greu celfwaith ar raddfa fawr newydd ar gyfer ein Horiel Bwrdd Posteri.

 

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys sesiynau ymgysylltu gyda rhai o’n grwpiau celfyddydau ac iechyd, gan gynnwys ein sesiynau tymor hir Byw gyda Dementia a Chreu gyda Hyder, ynghyd â gweithio gyda phobl o’n cymunedau artistig ehangach.

 

£2,500 ffi’r artist + ffi ymgysylltu ychwanegol

 

Dyddiad Cau: 9am Dydd Llun 9 Mawrth
Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Iau 19 Mawrth

 

Bydd rhaid cwblhau’r celfwaith newydd erbyn Dydd Llun 11 Mai 2026, gyda digwyddiad agor ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin. Ar ôl hyn, bydd yn cael ei arddangos am 12 mis.

 

Hwn fydd ein pedwerydd comisiwn Bwrdd Posteri ac mae’n rhan o Llantarnam Grange 60, sef blwyddyn o ddathlu 60 mlynedd o greadigrwydd yng Nghwmbrân. Ariennir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

 

Darllenwch ein Pecyn Cais cyn ymgeisio:
Comisiwn Bwrdd Posteri Pecyn Cais yn Gymraeg
Billboard Commission Application Pack English

 

I WNEUD CAIS:

Llenwch ein ffurflen gais ar-lein yma.

 

Mae hyn yn cynnwys:
– 200 o eiriau ynglŷn â’ch ymarfer
– 500 o eiriau i fynegi eich diddordeb, yn cynnwys:
– sut fyddech chi’n ymdrin â’r prosiect
– eich diddordeb mewn cydweithredu a chyd-greu
– eich diddordeb ac/neu eich profiad yn y celfyddydau ac iechyd
– enghreifftiau o waith perthnasol yn y gorffennol
– Hyd at 10 delwedd neu ddolennau at eich gwaith

 

Y maint ffeil mwyaf i’w lanlwytho yw 10MB.

 

Byddwch cystal â llenwi eich cais erbyn 9am dydd Llun 9 Mawrth

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Comisiwn Bwrdd Posteri, y broses, neu os hoffech drafod eich cais neu syniadau, cysylltwch â Sophie Lindsey yn: sophie-lindsey@llantarnamgrange.com