Gweithgareddau Creadigol yr Haf

GWEITHGAREDDAU CREADIGOL YR HAF
22 GORFFENNAF – 27 AWST 2026

 

Yr haf hwn rydym yn rhedeg 6 wythnos o weithgareddau creadigol i bobl o bob oedran a gallu! Mae pob wythnos yn canolbwyntio ar ddeunydd, thema, neu ffordd o wneud benodol.

 

Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o 5+ i 8+ felly gwiriwch eich sesiwn cyn bwcio. Rhaid i blant fod dan oruchwyliaeth bob amser.

 

Mae’r lleoedd yn yr holl sesiynau Dydd Mawrth yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw. Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, felly dewiswch un slot wrth fwcio.

 

Bwciwch eich lle drwy Eventbrite isod.

WYTHNOS 1: GWNEUD MARCIAU

 

Arbrofwch gyda gwneud marciau trwy batrymau a sgribladau gyda gwahanol ddeunyddiau i greu papurau addurnol a chollages chwareus.

 

Dydd Mawrth 21 Gorffennaf, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Papurau Addurnol – Defnyddiwch baent, inc a phasteli i greu papurau addurnol llachar ar gyfer marcio lluniau torri a chollage lliwgar.

 

Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma.

Dydd Mercher 22 Gorffennaf, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Adar Papur – Defnyddiwch bapurau collage patrymog a deunyddiau arlunio i greu adar papur chwareus.

 

Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Oriel 2 – Galw heibio

WYTHNOS 2: COLLAGE

 

Archwiliwch gollage a ysbrydolir gan osodiad ymgolli Bridie Doyle-Roberts, Sbectrwm o’r Golwg.

 

Dydd Mawrth 28 Gorffennaf, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Collage Cyffyrddol – Ymunwch â Bridie i greu collage synhwyraidd a chyffyrddol sy’n ddiddorol cyffwrdd ag ef, ynghyd ag edrych arno, gan helpu pobl â nam ar y golwg i brofi celf.

 

Rhaid bod plant yn 8 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma

Dydd Mercher 29 Gorffennaf, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Cadeiriau Miniatur – Defnyddiwch gollage i greu darluniau o gadeiriau miniatur a ysbrydolir gan y dodrefn yng ngosodiad Bridie.

 

Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Oriel 2 – Galw heibio

WYTHNOS 3: NATUR

 

Archwiliwch blanhigion, patrymau a gweadau a ysbrydolir gan fyd natur trwy decstilau ac arlunio.

 

Dydd Mawrth 4 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Batic: Patrymau Natur – Defnyddiwch y dechneg batic i greu celfwaith tecstilau a ysbrydolir gan natur. Yma, byddwch yn archwilio gwahanol siapiau, lliwiau a phatrymau trwy wrthgwyr a llifynnau.

 

Rhaid bod plant yn 8 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma.

Dydd Mercher 5 Awsr, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Natur gyda’r Nos – Rhowch gynnig ar ddarlunio planhigion, pryfed a chreaduriaid bach sy’n dod allan yn y nos gan ddefnyddio pinnau gwyn, pensiliau a lliwiau ar gefndir du.

 

Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Oriel 2 – Galw heibio

WYTHNOS 4: TECSTILAU

 

Archwiliwch decstilau trwy dechnegau brodwaith a ffelt!

 

Dydd Mawrth 11 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Cowtsio – Dysgwch sut i gowtsio, sef techneg frodio sy’n gwneud marciau syml neu ddelweddau llinlunio ar ffabrig. Mae’r ymarfer tecstilau araf hwn yn codi edafedd trwm, mwy trwchus sy’n gorwedd ar wyneb y ffabrig gan ddefnyddio pwyth mewn edau deneuach. Arbrofwch gyda newid gweadau, lliwiau a phwythau i greu eich gwaith llinlunio a phatrymau.

 

Rhaid bod plant yn 8 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma.

Dydd Mercher 5 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Wynebau Ffeltiog – Defnyddiwch ffelt lliwgar i greu darluniau collage chwareus a mynegiannol.

 

Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Oriel 2 – Galw heibio

WYTHNOS 5: BWYD

 

Dewch i gael eich ysbrydoli gan fwyd, ei ddeunydd pacio, ac offer trwy wneud printiau a darlunio!

 

Dydd Mawrth 18 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Printio Deunydd Pacio – Gwnewch ysgythriadau sychbwynt o eitemau a gedwir yng nghypyrddau eich cegin! Arbrofwch drwy ddefnyddio tetra pak a gwneuthurwr pasta i wneud printiau o gartonau, poteli, jariau a mwy.

 

Rhaid bod plant yn 8 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma.

Dydd Mercher 19 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Tlysau Bwyd Hwyliog – Trawsnewidiwch ddarluniau a chollages yn dlysau a bathodynnau a ysbrydolir gan fwyd! O’ch hoff fyrbrydau i lysiau trawiadol, byddwch yn greadigol gyda bwyd a’i ddeunydd pacio i wneud darnau celfwaith bach y gallwch eu gwisgo.

 

Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Oriel 2 – Galw heibio

WYTHNOS 6: LLYFRAU

 

Archwiliwch lyfrau trwy ddarluniau chwareus a rhowch gynnig ar wneud llyfr brasluniau syml!

 

Dydd Mawrth 25 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Darluniau Naid – Torrwch a phlygwch bapur i greu darluniau naid a ysbrydolir gan eich hoff storïau.

 

Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma.

Dydd Mercher 26 Awsr, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Llyfrau Miniatur – Crëwch eich llyfrau storïau neu frasluniau consertina i’w llenwi â geiriau, lluniau a syniadau.

 

Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Oriel 2 – Galw heibio

*Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

 

Os hoffech gael gwybod mwy ynglŷn â’n hadeilad a mynediad, i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad, gweler ein gwybodaeth i ymwelwyr a’n Canllaw Mynediad.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bost yn hello@llantarnamgrange.com neu ffoniwch 01633 483321.