GWEITHGAREDDAU CREADIGOL YR HAF
22 GORFFENNAF – 27 AWST 2026
Yr haf hwn rydym yn rhedeg 6 wythnos o weithgareddau creadigol i bobl o bob oedran a gallu! Mae pob wythnos yn canolbwyntio ar ddeunydd, thema, neu ffordd o wneud benodol.
Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o 5+ i 8+ felly gwiriwch eich sesiwn cyn bwcio. Rhaid i blant fod dan oruchwyliaeth bob amser.
Mae’r lleoedd yn yr holl sesiynau Dydd Mawrth yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw. Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, felly dewiswch un slot wrth fwcio.
Bwciwch eich lle drwy Eventbrite isod.
WYTHNOS 3: NATUR
Archwiliwch blanhigion, patrymau a gweadau a ysbrydolir gan fyd natur trwy decstilau ac arlunio.
Dydd Mawrth 4 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp
Batic: Patrymau Natur – Defnyddiwch y dechneg batic i greu celfwaith tecstilau a ysbrydolir gan natur. Yma, byddwch yn archwilio gwahanol siapiau, lliwiau a phatrymau trwy wrthgwyr a llifynnau.
Rhaid bod plant yn 8 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma.
Dydd Mercher 5 Awsr, 10yb-12yb a 1-3yp
Natur gyda’r Nos – Rhowch gynnig ar ddarlunio planhigion, pryfed a chreaduriaid bach sy’n dod allan yn y nos gan ddefnyddio pinnau gwyn, pensiliau a lliwiau ar gefndir du.
Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Oriel 2 – Galw heibio

