GWEITHGAREDDAU CREADIGOL YR HAF
22 GORFFENNAF – 27 AWST 2026
Yr haf hwn rydym yn rhedeg 6 wythnos o weithgareddau creadigol i bobl o bob oedran a gallu! Mae pob wythnos yn canolbwyntio ar ddeunydd, thema, neu ffordd o wneud benodol.
Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o 5+ i 8+ felly gwiriwch eich sesiwn cyn bwcio. Rhaid i blant fod dan oruchwyliaeth bob amser.
Mae’r lleoedd yn yr holl sesiynau Dydd Mawrth yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw. Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, felly dewiswch un slot wrth fwcio.
Bwciwch eich lle drwy Eventbrite isod.
WYTHNOS 4: TECSTILAU
Archwiliwch decstilau trwy dechnegau brodwaith a ffelt!
Dydd Mawrth 11 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp
Cowtsio – Dysgwch sut i gowtsio, sef techneg frodio sy’n gwneud marciau syml neu ddelweddau llinlunio ar ffabrig. Mae’r ymarfer tecstilau araf hwn yn codi edafedd trwm, mwy trwchus sy’n gorwedd ar wyneb y ffabrig gan ddefnyddio pwyth mewn edau deneuach. Arbrofwch gyda newid gweadau, lliwiau a phwythau i greu eich gwaith llinlunio a phatrymau.
Rhaid bod plant yn 8 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma.
Dydd Mercher 5 Awst, 10yb-12yb a 1-3yp
Wynebau Ffeltiog – Defnyddiwch ffelt lliwgar i greu darluniau collage chwareus a mynegiannol.
Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Oriel 2 – Galw heibio

