ORIEL 1
PORTAL 2026
12 MEDI – 21 TACHWEDD
Portal yw ein harddangosfa flynyddol o grŵp o artistiaid a gwneuthurwyr graddedig, a’i nod yw datgyfrinio gweithio yn y celfyddydau. Trwy roi cymorth, offer a’r cyfle i ddatblygu sgiliau i leisiau newydd, mae Portal yn ymestyn y tu hwnt i waliau’r oriel gan roi’r cychwyn gorau posibl i artistiaid datblygol wrth iddynt sefydlu gyrfaoedd cynaliadwy.
Trwy glwstwr o arferion sy’n amrywio o gerameg, peintio, cerflunwaith, darlunio, gwydr a ffilm, mae Portal 2026 yn arddangos casgliad o waith 15 o raddedigion eleni. Daw’r artistiaid o sefydliadau Cymreig fel Met Caerdydd, PCDDS Abertawe ac Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac o brifysgolion yn Lloegr fel Coleg Celf Henffordd, Prifysgol Bath Spa, Prifysgol y Celfyddydau Norwich, Ysgol Gelf Kingston a Phrifysgol Falmouth. Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon yn cipio’r syniadau a’r ysbryd cyfunol sy’n dod allan o ysgolion celf eleni.






Mae’r ffordd yr ymdeimlwn â’n gilydd a’n hamgylchoedd, a beth sy’n digwydd pan na wnawn, yn greiddiol i lawer o’r gwaith a arddangosir eleni. Ceir cydbwysedd rhwng dod o hyd i gysylltiadau trwy bobl, mewn traddodiadau cymunedol, arferion gwerin, defodau a dweud storïau, a’r cysylltiadau a wnawn gyda deunyddiau.
O ymgyfuniadau annhebygol, fel cerflunwaith sy’n cyfuno cerameg ac alwminiwm ac offer sydd â ffurfiau addurnol, i’r adweithiau a’r rhyngweithiadau rhwng deunyddiau â’n cyrff neu’r ddaeareg leol, mae yna ddiddordeb a rennir mewn pwyntiau cyfarfod.
P’un ai fod y pwyntiau hyn mewn amser, fel dechrau’r haf; gwrthrychau sy’n dod â ni at ein gilydd ac yn dod yn gynwysyddion emosiynol; neu’n storïau cyfarwydd rydym yn eu hail-ddychmygu neu’n eu gwehyddu i ffibrau ffabrig, mae’r cysylltiadau hyn yn dod â chynhesrwydd, cysur a llawenydd.






Tra bod rhai artistiaid yn dathlu’r ffyrdd y down at ein gilydd, mae eraill yn ymryson â’r gwrthdaro a’r datgysylltu sy’n digwydd pan na wnawn. Mae colled a newid yn dod ag unigrwydd – ar-lein ac all-lein – i’r wyneb, tra bod canfyddiadau a phwysau cymdeithasol yn creu problemau gyda hunaniaeth. Mae rhai yn codi rhwystrau corfforol, gan gyfyngu a ffrwyno ein cyrff drwy gerfluniau i’w gwisgo, tra bod yr union syniad o golli’r traddodiadau sy’n ein cysylltu yn ddigon i sbarduno ofn mewn rhai eraill.
Fodd bynnag, mae ein dyhead am ymgysylltu yn parhau, ac mae Portal 2026 yn dangos hyn yn uchel ac yn dawel. O ddathliadau sy’n llenwi trefi, i godi’r ffôn i alw ffrind, neu wrando ar sŵn dail yn siffrwd. Maent yn amlygu’r rhan bwysig y mae celf a diwylliant yn ei chwarae wrth ddod â phobl at ei gilydd.
Cyflwynir gwaith gan:
Abi Harverson, Edie Carney, Friday Lawrence, Iara Talledo Violani, Iestyn Davies, Iris Murray, Jessica Theobald, Jonas Tew, Laura Nicholls, Lauren Degg, Oliwia Ciabaszewska, Rhian Lewis, Sam Dowling, Sophie Cridland, Twig Searle
Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 12 Medi 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 21 Tachwedd 2026.
CATALOG YR ARDDANGOSFA
Gweler y Catalog Saesneg yma.