Oriel 1
Barnaby Barford, Stephen Bird, Penny Byrne, Steve Dixon, Amy Douglas, Ingrid Murphy
20.11.21 — 22.01.22
Mae’r ffigurau masgynnyrch a grëwyd yn bennaf yn Swydd Stafford o’r 18fed ganrif ymlaen yn gyfarwydd iawn i ni. Byddai’r crochenyddion yn creu penddelwau naïf a ffigurau cefn gwastad sy’n datgelu llawer am y cyfnod a’r amgylchiadau lle cawsant eu gwneud. Byddent yn cael eu creu’n rhad fel y byddent ar gael i bawb. Byddai rhai yn addurnol yn unig, ond roedd llawer yn dathlu bywydau gwleidyddion, troseddwyr, difyrwyr, arwyr cenedlaethol a’r teulu brenhinol. Bron y gellir dweud eu bod yn rhan o’n hunaniaeth genedlaethol bellach, yn eitemau cyffredin yng nghartrefi ac ar silffoedd pen tân Prydain ers canrifoedd. Mae’r arddangosfa hon yn hel grŵp o artistiaid at ei gilydd sy’n cyfeirio at y traddodiad hwn, gan archwilio technegau clai ynghyd â’n dynoliaeth a’n hiwmor. Mae i’w gwaith y gallu grymus i ymgysylltu â’r gwyliwr, drwy weithiau sydd mor gyfarwydd ar y golwg cyntaf, ond wrth graffu arnynt, sydd yn gwyrdroi’r genre gyda naratifau swrrealaidd a chyfoes.

Mae Penny Byrne, fel llawer o’r artistiaid yn yr arddangosfa, yn defnyddio ffigurau ceramig hapgael, ac yn eu haddasu ac ychwanegu atynt i adlewyrchu’r byd mae’n ei weld o’i chwmpas. Terfir ar gynefindra a chysur yr hen ffigurau hyn mewn gweithiau fel EuropaEuropa lle mae ffigurau bugeiliol bach yn cael eu gosod mewn cychod cwpanau te gyda gwasgodau achub oren llachar yn tynnu sylw at yr argyfwng mudwyr a ffoaduriaid parhaus ar draws Ewrop. Gwelir y broses hon o wyrdroi’r cyfarwydd yng ngwaith Barnaby Barford hefyd, lle mae gwrthrychau hapgael masgynnyrch yn cael eu troi’n gerfluniau sinistr ond doniol. Mae’r ffigurau sentimental yn dod yn gymeriadau yn ei naratifau sy’n tynnu sylw at gymdeithas a gwleidyddiaeth gyfoes. Mae Stephen Bird yn ystyried traddodiadau celf werin gan greu gweithiau sy’n wleidyddol ac yn bersonol, yn defnyddio ac yn cyfeirio at gerameg fasgynnyrch ei blentyndod, ei threftadaeth fel diwydiant, ac effaith y gwrthrychau hyn ar ein bywyd bob dydd. Mae casgliadau amgueddfa a digwyddiadau gwleidyddol cyfoes fel Brexit ac arlywyddiaeth Trump yn dylanwadu ar weithiau dychanol Stephen Dixon, sy’n cynnwys ffigurau clasurol, mytholegol ynghyd â rhai o’r diwylliant pop.
Mae Amy Douglas yn gweithio gyda darnau o grochenwaith Swydd Stafford wedi torri, gan ddefnyddio’r man lle mae’r darn wedi torri fel y man cychwyn ar gyfer y naratifau swrrealaidd mae’n eu creu. Mae’n defnyddio technegau adfer traddodiadol ac mae’n ymddiddori ym mherchenogaeth y gwrthrychau yn y gorffennol, y storïau sy’n gysylltiedig ac sy’n cael eu hailadrodd trwyddynt. Mae Ingrid Murphy yn ymddiddori yn y modd rydym yn ymgysylltu ac yn rhyngweithio â gwrthrychau domestig. Mae’n sganio crochenwaith Swydd Stafford traddodiadol mewn 3D, gan fewnosod ei hwyneb ei hun, codau QR, cydrannau trydanol a sbardunau sŵn sy’n sensitif i gyffyrddiad. Mae ein hemosiynau a’n hadweithiau i’r gwrthrychau hyn, sy’n ymddangos yn gyfarwydd, yn cael eu gwyrdroi gan y defnydd o dechnoleg a datganiadau gwleidyddol amlwg ar bynciau fel Brexit.
Mae’r holl weithiau yn yr arddangosfa hon yn annisgwyl, yn bryfoclyd, ac yn aml yn ddoniol. Maent yn adlewyrchu meddyliau modern a sylwebaeth ar hanes cymdeithasol, gwleidyddiaeth, ynghyd â storïau personol. Maent yn amlygiad ffisegol o’n bywyd a’n hamserau.