ORIEL 2

 

Y Nadolig hwn yn Llantarnam Grange, bydd rhywbeth arbennig yn ymddangos. Mae Nadolig Cymreig – yn llawn llên gwerin, traddodiadau, cynhesrwydd a dathlu – yn aros amdanoch.

Mae gan Gymru hanes cyfoethog o draddodiadau ac arferion. Bydd Canol Gaeaf yn cynnwys stori’r Fari Lwyd – traddodiad sy’n tarddu o’r hen Sir Forgannwg.

Yn ystod dathliadau Canol Gaeaf, yn aml rhwng Diwrnod Nadolig a Nos Ystwyll, bydd Mari, sef penglog ceffyl wedi’i osod ar bolyn gyda chlogyn gwyn, llygaid pefriog a mwng o rubanau lliwgar, yn ymweld â chartrefi ac yn cyfnewid rhigymau er mwyn cael croeso ar yr aelwyd i gael llymaid. Byddai hynny’n dod â lwc dda i’r cartref ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

Gan roi llwyfan i grefftau cyfoes a gwahanol, bydd y sioe yma hefyd yn cynnwys bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol. Byddwn ni’n creu ‘marchnad’ Geltaidd sy’n gweiddi’n groch am Gymru a’r holl bethau gwych a phrydferth sydd ganddi i gynnig.