A Visible THREAD

ORIEL 1
A VISIBLE THREAD – SEAM
17 CHWEFROR – 4 MAI

 

Mae A Visible THREAD yn arddangosfa grŵp gan y gydweithfa tecstilau cyfoes, seam, sy’n archwilio gweledigrwydd ac anweledigrwydd edau. Mae edau, fel brethyn, yn cael ei gweu trwy ein bywydau. Mae’n ein hamgylchynu fel ail groen. Ac yn union oherwydd y cysylltiadau agos hyn, mae’n dod bron yn anweladwy i ni.

 

Mae gwaith a wneir gydag edau, sydd wedi ei wreiddio mewn technegau crefft, wedi cael ei ystyried yn hanesyddol yn ‘waith menywod’, gwaith preifat, ymarferol, addurnol, a diogel. Mae brethyn ei hun yn dal i gael ei ystyried yn ddeunydd ryweddol ac mae rhaniad rhywedd yn bodoli rhwng celf ‘uchel’ a chrefft wedi’i benyweiddio. Tan yn ddiweddar, mae edau wedi bod bron yn anweladwy fel cyfrwng mewn celfyddyd gyfoes.

Nod A Visible THREAD yw annog gwylwyr i ailfeddwl eu perthynas ag edau, ac i fod yn ymwybodol o’i materoliaeth, ei chynaliadwyedd, ei phosibiliadau, a’i chyfyngiadau. Trwy amrediad amrywiol o ddisgyblaethau a phersbectifau tecstilau, mae’r arddangosfa hon yn dod â gwaith newydd gan 13 o artistiaid seam at ei gilydd i ysgogi syniadau, ymgysylltu, a sgwrs.

Mae seam yn gydweithfa tecstilau cyfoes yn Ne Orllewin Lloegr. Mae’n cynnwys brodwyr, printwyr, gweuwyr, gwehyddion, lliwyddion, dylunwyr ffasiwn, eco-ddylunwyr, gwneuthurwyr, artistiaid. Pwrpas y gydweithfa yw caniatáu iddynt dod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd trwy rannu gwybodaeth, cyfleoedd lleol, cynhyrchu lleol, creu clymau agosrwydd lleol, a rhannu eu gwaith a’u hoffter o decstilau gydag eraill.

 

Cyflwynir gwaith gan:
Penny Wheeler, Alice-Marie Archer, Lou Baker, Oliver Bliss, Jane Colquhoun, Nina Gronw-Lewis, Julie Heaton, Helen MacRitchie, Joy Merron, Lydia Needle, Angie Parker, Nicola Turner, a’r diweddar Dr. Linda Row.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel Ddydd Sadwrn 17 Chwefror, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 4 Mai 2024.

GWEITHGAREDDAU CREADIGOL

 

Throughout the exhibition artist from seam collective will be running a series of free creative activities!

 

Dydd Sadwrn 2 Mawrth, 2-4yp – Ffigurau Brigau
Dydd Sadwrn 2 Ebril, 10yb-4yp – Bagiau O Hwyl
Dydd Sadwrn 4 Mai, 10yb-3yp – Teimlo Trwy Arlunio
Dydd Sadwrn 11 Mai, 10yb-3yp – Gwenyn Prydeinig Ffeltio â Nodwydd â Gwnïo

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

I gael gwybod mwy yma.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.